Gwersylla gwyllt yn amharu ar lonyddwch Pen Llŷn
- Cyhoeddwyd
Mae pobl sy'n byw ger un o lecynnau hyfrytaf Penrhyn Llŷn yn poeni y bydd yna gynnydd pellach yno'r haf yma mewn achosion o wersylla gwyllt a pharcio dros nos.
Tydi Porth Ysgadan ger Tudweiliog ddim yn gymaint o gyfrinach debyg erbyn hyn.
Mae pobl leol wedi bod yn cwyno ers blynyddoedd am ymwelwyr yn dangos diffyg parch tuag at yr ardal, gyda rhai yn gadael ei budreddi ar ôl yno.
Yn ôl Chris Brady o Gyngor Cymuned Tudweiliog roedd y sefyllfa "yn waeth nag erioed y llynedd" ar ôl i'r cyfyngiadau coronafeirws gael eu llacio.
Mae o'n poeni y bydd yna gynnydd eto eleni yn nifer yr ymwelwyr wrth i bobl ddewis dod i Gymru ar eu gwyliau eto yn hytrach na mentro dramor.
"Roedd blwyddyn diwethaf allan o bob rheswm. Mi drio ni'n gorau i'w hel nhw oddi yma. Ond doedden nhw ddim yn gwrando dim arna ni."
Y cynghorydd Seimon Glyn sy'n cynrychioli Tudweiliog ar Gyngor Gwynedd ac mae'r sefyllfa, meddai, yn gwneud pobl leol yn flin.
"Mae pobl yn y campervans yma yn creu carthion dynol ac yn gadael nhw allan ar y llwybrau, ac yn tollti cynnwys eu toiledau i'r môr.
"Mae o'n beth ffiaidd ac yn beth peryglus."
Yn ôl Cyngor Gwynedd fe fydd rhagor o arwyddion yn cael eu codi ym Mhorth Ysgadan yn yr wythnosau nesa.
Mae yna rai yno'n barod.
Tydi'r Cynghorydd Seimon Glyn ddim yn ffyddiog y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth gan fod yr "arwyddion yma yn barod, ac maen nhw'n anwybyddu nhw."
"Yr unig opsiwn arall fydd gynnon ni mae'n beryg ydi i greu clawdd i rwystro'r cerbydau yma rhag parcio, oni bai bod ni'n creu rhywbeth masnachol i ganiatáu iddyn nhw arllwys eu carthion.
"Ond mae hynny wrth gwrs yn ddadl arall mewn lle sydd mor unigryw o dlws."
Tydi hyn ddim yn sefyllfa unigryw wrth gwrs.
Mae yna lefydd ar draws Cymru sy'n dioddef problemau tebyg.
Mewn ymateb i gais gan Newyddion S4C fe ddwedodd nifer o gynghorau Cymru iddyn nhw weld cynnydd y llynedd yn nifer yr achosion o wersylla gwyllt.
Mae'r rhaglen hefyd wedi gweld fideo o bobl yn aros dros nos ym Mharc Padarn yn Llanberis y penwythnos diwethaf, er gwaetha'r arwyddion yno yn dweud wrth bobl i beidio â gwneud hynny.
Yn ôl Cyngor Gwynedd maen nhw'n "cyflogi cwmni diogelwch arbenigol i gloi'r meysydd parcio ac i ddelio gydag unrhyw achosion o wersylla gwyllt ar dir Parc Padarn yn Llanberis.
"Mae'r sefyllfa yn cael ei adolygu'n rheolaidd, a byddem yn annog unrhyw un sydd â thystiolaeth neu bryderon am wersylla gwyllt yn y lleoliad yma i gysylltu â ni."
Yn Sir Benfro mae tîm penodol ar waith yn ceisio rheoli'r sefyllfa yno.
Yn ôl Marc Owen, pennaeth strydoedd a pharcio'r cyngor, roedd hyn "yn broblem fawr yn 2020".
"Tydi eleni ddim wedi bod cynddrwg - ond eto mae hi'n gynnar.
"Mae'r cyfan yn ychwanegu pwysau ac yn cynyddu'r tensiwn o fewn y gymuned."
Siarad gydag ymwelwyr sy'n allweddol yn ôl Marc Owen, a'u perswadio nhw i "warchod a pharchu" Sir Benfro.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2020
- Cyhoeddwyd7 Awst 2020
- Cyhoeddwyd5 Awst 2020