Pam fod cymaint wedi gadael y sector lletygarwch?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Tafarn wagFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae bwytai a thafarndai wedi ei chael yn anodd canfod digon o staff wrth i'r cyfyngiadau lacio

Mae cwsmeriaid wedi heidio yn ôl i dafarndai a bwytai dros yr wythnosau diwethaf wrth i'r cyfyngiadau Covid-19 lacio, ond mae hi wedi bod yn stori wahanol i nifer o staff.

Wedi misoedd ar gau oherwydd cyfnodau clo, mae'r sector lletygarwch wedi ei chael yn anodd canfod gweithwyr wrth i safleoedd ailagor yn llawn.

Mae ffigyrau'n awgrymu bod dros 10% o weithwyr wedi gadael y diwydiant lletygarwch yn y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd un fenyw sydd wedi gadael y diwydiant, Aleksandra Zadroga, fod ffyrlo wedi "gwthio" nifer i roi'r gorau i'w swyddi.

Ond pam fod cymaint wedi gadael lletygarwch?

'Ansicrwydd enfawr'

Fe wnaeth Ms Zadroga, 26 o Abertawe, dechrau gweithio yn y diwydiant wyth mlynedd yn ôl tra'n astudio yn y brifysgol, ac roedd hi'n rheolwr erbyn i'r pandemig daro.

Ond fe benderfynodd ymddiswyddo o'i swydd mewn bwyty am yrfa newydd yn dilyn cyfnod o fisoedd ar ffyrlo.

"Yn yr amser yna i ffwrdd roedd ansicrwydd enfawr - mae pobl yn meddwl ei fod yn neis bod ar ffyrlo a chael 80% o'ch cyflog, ond roedd e'n gyfnod anodd," meddai.

"Doeddech chi ddim yn gwybod pryd fyddwch chi 'nôl yn eich gwaith, fyddai hynny'n rhan-amser ta llawn-amser, ac a fydd eich swydd dal yno hyd yn oed gan fod rhai bwytai wedi gorfod cau.

"Dyna pam rwy'n credu fod cymaint o bobl ym maes lletygarwch wedi dechrau chwilio am swyddi eraill."

Ffynhonnell y llun, Work in Wales
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Aleksandra Zadroga adael lletygarwch am y diwydiant recriwtio ar ôl dychwelyd o ffyrlo

Yn gynharach fis yma fe wnaeth Ms Zadroga ymddiswyddo a chanfod gwaith gyda chwmni recriwtio Work Wales.

Dywedodd bod y newid wedi bod yn un positif i'w bywyd personol yn ogystal â'i gyrfa.

"Rwy'n cael penwythnos, dydw i ddim yn gweithio cymaint dros fy oriau ac mae gen i ddiwrnod gwaith wyth awr yn hytrach na 14 awr," meddai.

Brexit yn ffactor hefyd

Dywedodd Niki Turner-Harding o asiantaeth recriwtio Adecco bod "diffyg sylweddol yn nifer yr ymgeiswyr yn y diwydiant lletygarwch yng Nghymru".

Ychwanegodd ei bod hi wedi gweld mwy o bobl yn gadael y diwydiant yn ystod y pandemig i geisio canfod gwaith mwy sefydlog, yn enwedig mewn cyfnod mor ansicr.

"Rydyn ni hefyd wedi gweld nifer o weithwyr o'r Undeb Ewropeaidd yn gadael oherwydd Brexit," meddai.

Ffynhonnell y llun, Helen Anne Smith
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Helen Anne Smith ei bod yn deimlad "anhygoel" gallu gadael y diwydiant lletygarwch

Roedd Helen Anne Smith, 27 o Gaerdydd, yn astudio i fod yn cicerone (rôl debyg i sommelier ond gyda chwrw), ond mae hi nawr yn bwriadu gadael y diwydiant.

Mae hi wedi gweithio mewn siop goffi ac mewn tafarndai, ond dywedodd ei bod angen mwy o sicrwydd ariannol na'r hyn sy'n cael ei gynnig gan letygarwch.

"Mae wedi gwneud i mi sylweddoli pa mor anghynaladwy ydy swyddi lletygarwch - yn ariannol ond hefyd o ran yr oriau. Dydw i ddim yn cael gweld fy ngwraig am ei bod yn gweithio yn ystod y dydd," meddai.

"Yn ystod y cyfnod clo cyntaf roedd hi'n deimlad anhygoel bod mewn sefyllfa ble, o'r diwedd, doedd cwsmeriaid ddim yn gweiddi arna i neu'n fy nghyffwrdd heb fod angen.

"Ond rwy'n gwybod cyn hir na fydd angen cadw pellter eto a dydw i wir ddim eisiau mynd yn ôl i'r amgylchedd yna."

'Gorfod dechrau o'r dechrau'

Ond mae nifer y gweithwyr sy'n gadael y diwydiant wedi bod yn gur pen i nifer o fwytai a thafarndai, sydd wedi cael problemau staffio mewn cyfnod ble maen nhw'n ceisio croesawu cwsmeriaid yn ôl.

Dywedodd Ceri Cook, perchennog bwyty Rocket and Rye yn Y Bont-faen, Bro Morgannwg, bod rhai wedi ymddiswyddo er i'r busnes eu talu "o'n pocedi ein hunain" yn ystod y cyfnod clo.

"Rydyn ni wedi canfod ein hunain yn gorfod dechrau o'r dechrau, felly mae'n siomedig," meddai.

"Rydw i wedi ceisio bod yn rheoli'r tîm a gwneud gwaith dydd i ddydd, tra hefyd yn ceisio cyfweld pobl a hyfforddi staff newydd."

Ychwanegodd bod nifer o'i staff newydd yn bobl ifanc sydd newydd adael yr ysgol.

"Maen nhw'n gwneud yn dda iawn - felly rwy'n credu bod y diwydiant yn fwy positif," meddai.