25 mlynedd ers protest yn erbyn ymweliad y Frenhines ag Aber
- Cyhoeddwyd
Mae union chwarter canrif ers i brotest gan fyfyrwyr yn Aberystwyth atal y Frenhines rhag cwblhau ymweliad â'r dref - yr unig dro i hynny ddigwydd ar dir mawr Prydain.
Ar ddiwrnod olaf Mai roedd cannoedd o fyfyrwyr y brifysgol wedi dod at ei gilydd tu fas i Neuadd Pantycelyn er mwyn dangos eu hanfodlonrwydd gyda'r gwahoddiad yr oedd y Frenhines wedi'i gael i agor estyniad newydd i'r Llyfrgell Genedlaethol.
Roedd y protestwyr yn meddwl mai rhywun o Gymru - awdur neu ffigwr diwylliannol arall - ddylai fod wedi cael yr anrhydedd o agor yr estyniad.
Fe gafodd saith o'r protestwyr eu harestio - rhai ohonyn nhw ar ôl neidio dros rwystrau i geisio atal car y Frenhines rhag cyrraedd y llyfrgell wrth iddo basio Neuadd Pantycelyn.
'Balchder o fod yn rhan'
Roedd Morys Gruffydd yn un o'r rhai gafodd ei arestio. Roedd ei lun ar flaen y Western Mail y diwrnod canlynol, dan y pennawd 'The Shaming of Wales'.
Dywedodd Mr Gruffydd - sy'n dal i fyw yn Aberystwyth - nad yw'n edifarhau am ei ran yn y brotest o gwbl.
"Dwi'n credu bod yna falchder o fod yn rhan o rywbeth mor fawr a bod yn rhan o'r cannoedd oedd yn protestio," meddai.
"Ond dwi'n credu wrth edrych ar y peth mewn cyd-destun ehangach mae'n dangos bod protestio di-drais yn gallu cyflawni pethau, bod pobl yn gwrando ar leisiau protestwyr ac mae'n braf gweld protestio yn parhau heddi - os yw e o blaid yr iaith Gymraeg, BLM neu Extinction Rebellion.
"Os yw pobl yn dod at ei gilydd mewn modd di-drais mae modd cyflawni unrhyw beth.
"Doedd dim syndod gyda llaw bod y papur cenedlaethol honedig wedi rhoi pennawd o'r fath. Ond y cywilydd mwyaf oedd bod y Frenhines wedi cael gwahoddiad yn y lle cyntaf i agor un o'r sefydliadau cenedlaethol yma yng Nghymru."
Roedd rhai wedi beirniadu'r heddlu, gan ddweud y dylai fod modd sicrhau y gallai'r Frenhines gwblhau'r ymweliad.
Ond gwrthod hynny wnaeth Heddlu Dyfed-Powys ar y pryd. Ar ôl y brotest ym 1996 fe ddywedodd Eifion Pritchard, Dirprwy Brif Gwnstabl y llu: "Da ni wedi gwneud yn siŵr bod y Frenhines yn saff - bod hi wedi mynd o 'ma yn saff a gyda'i hurddas. Ac mae hynny'n fwy pwysig na gorffen y rhaglen yn fy marn i."
'Gwybod y byddai rhywbeth yn digwydd'
John Meredith oedd gohebydd BBC Cymru yn y digwyddiad, a dywedodd ei fod yn disgwyl y byddai rhyw drafferth yn ystod yr ymweliad.
"O'n i'n gwybod o'r dechrau y byddai rhywbeth yn digwydd - ond lle a phryd a pha ffurf fyddai'r brotest yn cymryd - dyna o'n i ddim yn gwybod," meddai.
"Lawr ar bwys yr orsaf [ar ddechrau'r ymweliad] roedd y genhedlaeth hŷn a phlant - pobl oedd yn deyrngar iawn ac yn falch iawn o weld y Frenhines - roedd lot o glapio a chwifio baneri ac ati."
Ond fe newidiodd yr awyrgylch wrth i'r car brenhinol adael y dref a dringo'r bryn tuag at y llyfrgell a gorfod pasio Neuadd Pantycelyn er mwyn cyrraedd.
Pan ddigwyddodd y brotest roedd John Meredith wrth y llyfrgell yn disgwyl yr agoriad swyddogol.
"Pan gyrhaeddodd y Frenhines ro'n i'n ymwybodol wedyn bod rhyw brotest wedi digwydd ar y ffordd lan, ac wedyn roedd hi'n fater o ffeindio allan wedyn beth yn union oedd wedi digwydd," meddai.
"Ond erbyn iddi gyrraedd ni roedd popeth 'nôl yn dawel eto achos roedd plant yr ysgol Gymraeg yn canu iddi ac roedd dynes 95 oed yna i'w chyfarch hi, roedd popeth wedi tawelu erbyn iddi gyrraedd y llyfrgell a phopeth dan reolaeth gan yr heddlu."
Ychwanegodd bod yr ymateb yn Aberystwyth i'r brotest yn gymysg.
"Roedd y bobl oedd yn teimlo'n gryf mai rhywun oedd yn ymwneud â'r llyfrgell - Cymro neu Gymraes - ddylai fod yn agor yr estyniad newydd yma, o'n nhw yn teimlo'n gryf i'r cyfeiriad yna, ond wedyn roedd pobl yn y dref yn teimlo'n gryf bod hi'n beth da i Aberystwyth bod y Frenhines yn dod i wneud hyn."
Ar ôl agor yr estyniad yn y Llyfrgell - ar gyngor ei swyddogion diogelwch - aeth y Frenhines ddim ymlaen i ail ran ei hymweliad.
Roedd hi fod i agor adran newydd ar gampws y brifysgol ond wnaeth hi ddim cwblhau'r ymweliad yn unol â'r cynllun gwreiddiol - yr unig dro i hynny ddigwydd ym Mhrydain.
'Arwyddocâd cenedlaethol'
Yn ôl yr hanesydd Hefin Mathias roedd y digwyddiad yn Aberystwyth ym 1996 yn arwyddocaol am reswm arall hefyd.
"Mi oedd yna brotestio mawr wedi bod yn Aberystwyth yn y 60au pan oedd y Tywysog Siarl wedi dod i'r Coleg ac mi oedd wedi gwaethygu yn ystod yr arwisgo yn 1969, ond ar y cyfan roedd y Frenhines yn cael ei chroesawu yn gynnes iawn gan bobl Cymru," meddai.
"Daeth hi i gydymdeimlo gyda phobl Aberfan, ac roedd hi wedi bod yma nifer o weithiau.
"Felly y rhagdybiaeth oedd y byddai 'na groeso mawr iddi, ac mi oedd croeso iddi ymhlith y werin bobl fel petai ar y diwrnod hwnnw, ond mi oedd yr ymweliad penodol yma yn taro yn arbennig yn groes i deimladau gwrth-Brydeinig a gwrth-Frenhinol y to ifanc.
"Efallai fod hyn hefyd yn adlewyrchu y ffaith fod pobl Cymru ei hun yn newid, y gymdeithas yn newid, o fod yn gymdeithas wasaidd, i gymdeithas llawer mwy hyderus ac yn fwy parod i fynnu ei hawliau - a falle dyna pam roedd y brotest yma wedi digwydd.
"Roedd yn arwyddocaol felly mewn cyd-destun lleol, ond hefyd yn arwyddocaol mewn cyd-destun cenedlaethol."