Adnabod nofwraig aeth i drafferthion yng Nghricieth
- Cyhoeddwyd
Dywed plismyn eu bod bellach yn gwybod pwy yw'r ddynes a achubwyd o'r môr yng Nghricieth brynhawn Sul.
Cafodd y nofwraig ei thynnu o'r môr gan bobl leol wedi iddi fynd i drafferthion toc cyn hanner dydd.
Wedi i'r gwasanaethau brys gael eu galw aed â'r ddynes i'r ysbyty ac fe apeliodd Heddlu'r Gogledd am gymorth i'w hadnabod.
Gan nad oedd ganddi allweddi char na dogfennau roedd yr heddlu yn credu ei bod wedi cerdded i'r traeth er mwyn nofio.
Yn hwyr nos Sul dywedont eu bod bellach wedi ei hadnabod.