Lawrence i mewn... ac yna allan o garfan Euro 2020 Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru a'u hamddiffynnwr James Lawrence wedi cael ergyd, wedi i'r chwaraewr orfod tynnu'n ôl o'r garfan ar gyfer Euro 2020 oherwydd anaf.
Cafodd Lawrence, sy'n chwarae yng nghanol yr amddiffyn i dîm St Pauli yn yr Almaen, ei enwi yn y garfan ddydd Sul, ond bu'n rhaid iddo dynnu'n ôl ddydd Llun.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru bod sgan wedi cadarnhau y bydd Lawrence allan am rai wythnosau gyda'r anaf.
Lockyer yn cymryd ei le
Chwaraewr Luton, Tom Lockyer, fydd yn cymryd ei le.
Mae Lawrence, 28, wedi ennill naw cap i'w wlad, ac roedd yn bosib y byddai wedi dechrau gêm agoriadol Cymru yn y gystadleuaeth, yn erbyn Y Swistir yn Baku a 12 Mehefin.
Dechreuodd y ddwy ornest yn erbyn Gwlad Belg yn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 yn ddiweddar, a'r gêm yn erbyn y Weriniaeth Siec ym mis Mawrth.
Mae Lockyer wedi ennill 13 cap, a chafodd ei adael allan o'r garfan yn wreiddiol ar sail y ffaith ei fod wedi methu tri mis ola'r tymor gydag anaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2021