Teyrnged i chwaraewr rygbi wedi gwrthdrawiad angheuol
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn-chwaraewr rygbi 36 oed a fu farw wedi gwrthdrawiad beic modur ym Mhowys.
Bu farw Riaz Majothi yn y fan a'r lle wedi'r gwrthdrawiad ar y B4520, ym mhentref Capel Uchaf ger Llanfair-ym-Muallt oddeutu 14:00 ddydd Llun.
Dywed Clwb Rygbi Beddau bod Riaz Majothi, 36, yn "yn o'n cymeriadau gorau" a bod "pawb oedd â'r fraint o'i nabod yn ei garu".
Ychwanegodd cadeirydd y clwb, Mal Davies bod y prop yn "wir ŵr bonheddig" ac yn "enaid y parti".
Mae nifer o glybiau a chefnogwyr hefyd wedi rhoi teyrngedau ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ysgrifennodd y dyfarnwr rhyngwladol, Nigel Owens ar Twitter: "Mor ddrwg gen i glywed y newyddion trist yma. Roedd yn berson rhyfeddol."
Roedd Mr Majothi, oedd yn byw ym Meddau, wedi chwarae i'r clwb ers yn fachgen.
Bu'n rhaid iddo roi'r gorau ar chwarae ar ôl cael anaf yn ei 30au cynnar, ac aeth ymlaen i hyfforddi ail dîm y clwb.
Dywedodd Mr Davies y bydd hefyd "yn cael ei golli gan y gymuned, fel person gofalgar oedd ag amser i bawb, yn hen neu'n ifanc".
Un cerbyd yn unig oedd yn y gwrthdrawiad, sef beic modur KTM Duke Mr Majothi.
Fe gafodd y ffordd ei chau gyda dargyfeiriadau yn eu lle tan 21:00.
Mae perthynas agosaf y beiciwr wedi derbyn cyngor a chefnogaeth gan swyddogion.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion.
Gofynnir i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu unrhyw un â gwybodaeth a allai helpu swyddogion gyda'u hymchwiliad i gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar-lein, dolen allanol, trwy e-bostio 101@dyfed-powys.pnn.police.uk, neu drwy ffonio 101.