Marchnadoedd awyr agored yn 'hwb' i fusnesau
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o fusnesau marchnadoedd stryd yn Sir y Fflint yn ystyried agor llefydd parhaol yn dilyn yr hwb mewn gwerthiant wedi'r cyfnod clo.
Yn ôl y masnachwyr mae pobl wedi bod yn tyrru i'r marchnadoedd awyr agored am eu bod nhw'n cynnig profiad siopa hollol wahanol i'r archfarchnadoedd.
Mae stondinwyr yn Nhreffynnon a'r Wyddgrug wedi nodi cynnydd mewn cwsmeriaid wrth i'r cyfyngiadau leihau, yn enwedig ymhlith pobl iau.
Ond mae trefnwyr y marchnadoedd yn dweud bod y lle wedi bod yn hwb hefyd i fusnesau a gafodd eu gorfodi i gau eu drysau neu i addasu eu busnes oherwydd y cyfyngiadau.
"Mae teyrngarwch y cwsmeriaid wedi bod yn anghredadwy", meddai Ayman Ghosheh sy'n rhedeg stondin bwyd stryd Camel's Hump Lebanese yn yr Wyddgrug, "ac mae'n rhaid i mi wneud yr un peth yn gyfnewid i roi'r teyrngarwch yn ôl iddyn nhw.
"Rydw i wrth fy modd i fod yma: rydw i'n gwneud dydd Mercher a dydd Sadwrn ac rydych chi'n adeiladu ar y cyfeillgarwch - yn dod yn deulu bach ac yn siarad am wahanol bethau fel diwylliant, nid dim ond bwyd a phethau felly, mae cymaint i siarad amdano. Mae wedi bod yn wych."
Yn ôl stondinwr arall mae llawer o fusnesau newydd yn agor yn y dref yn uniongyrchol oherwydd eu llwyddiant yn y farchnad awyr agored.
"Mae'n ymddangos bod pawb yn gefnogol iawn" meddai Jamie Lee Anderson, sy'n rhedeg 'Cravin Cupcakes'.
"Rydyn ni'n dal i fynd i barhau yn y farchnad. Rwy'n credu bod yr Wyddgrug ar i fyny ar y funud... mae llwyth o fusnesau newydd yn agor ac rwy'n credu bod llawer o hynny yn dibynnu ar y farchnad.
"Rwy'n gwybod bod llawer o siopau yma a ddechreuodd yn y farchnad eu hunain, felly rydyn ni'n dilyn i mewn ôl eu traed mewn gwirionedd."
Cynyddu proffil busnes
Fe ailgychwynnodd marchnad Treffynnon ar 15 Ebrill ar ôl bod ar gau yn ystod y cyfnod clo, er bod rhai masnachwyr fel y gwerthwr blodau, wedi bod yn gweithredu gwasanaethau dosbarthu.
Mae Vicky Russell, 55, yn gyfrifol am gwmni Vanilla Jewellery. Fel arfer fe fyddai'n gwerthu mewn digwyddiadau dan do, ond ym mis Awst 2020 fe wnaeth hi'r penderfyniad i gymryd stondin ym marchnad Treffynnon.
Dywedodd bod y proffil sydd nawr ganddi ar-lein o ganlyniad uniongyrchol o fod yn y farchnad wedi ei helpu yn absenoldeb cyfleoedd eraill.
"O'r blaen, byddwn i'n gwerthu mewn ffeiriau a digwyddiadau ac i siopau ac roedd hynny'n mynd yn wych nes y cyfnod clo, yna daeth popeth i ben," meddai.
"Mae'r farchnad wedi bod yn hwb gwirioneddol gan ei fod wedi fy helpu i ddod o hyd i gwsmeriaid a dilynwyr newydd ar gyfryngau cymdeithasol. Mae pobl yn prynu oddi wrtha' i ac yn fy nilyn ar-lein, ac mae'n ddigwyddiad cymdeithasol cyfeillgar hyfryd."
Dywedodd Lynda Carter, sy'n rhedeg stondin yn hyrwyddo Treffynnon ei bod wedi bod yn hyfryd gweld pobl yn dychwelyd i'w chefnogi.
"Mae'r farchnad yn fwy na marchnad yn unig, mae'n gymuned. Maen nhw'n cynnig gwasanaeth does neb arall yn ei wneud. "
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd17 Mai 2020