Pa mor gyflym fydd trefi'n adfer wedi'r pandemig?
- Cyhoeddwyd
Fel gohebydd, mae hi wedi bod yn brofiad digalon iawn i orfod mentro mewn i ganol trefi yn ystod y cyfnod clo.
Y strydoedd yn wag, a'r siopau ar gau, a phawb yn pryderu a fydd busnesau yn medru goroesi effeithiau economaidd y pandemig.
Ar ben hynny, mae'r straen wedi bod yn amlwg ar wynebau siopwyr, a phawb am brynu o'r siopau a dianc adref mor gyflym â phosib.
Gyda llacio'r rheolau yma yng Nghymru yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae rhywfaint o fywyd wedi dychwelyd i ganol ein trefi a'r busnesau cyfagos yn Sir Gaerfyrddin, a theimlad efallai, o gyfnod newydd, mwy gobeithiol, i fusnesau.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Castell Carreg Cennen wedi cael ailagor. Ers degawdau, mae'r teulu Llewellyn wedi bod yn croesawu ymwelwyr i'r castell sydd yn dyddio nôl yn wreiddiol i gyfnod yr Arglwydd Rhys.
O ddydd Llun 26 Ebrill ymlaen, fe fydd modd gweini bwyd tu allan. Nos Iau daeth y cyhoeddiad y bydd bwytai a thafarndai yn cael ailagor dan do ar 17 Mai.
Yn ôl un o ferched y teulu Llewellyn, Angharad Thomas, mae hynny i'w groesawu yn fawr iawn.
"Mae gallu gadael y bobl i eistedd tu fas, mae hwnna yn mynd i fod yn arbennig i ni," meddai. "Ni'n gobeithio fod y tywydd yn mynd i fod yn garedig, ond mi fydd gallu agor tu fewn yn gwneud gwahaniaeth mawr i ni.
"Mae ystafell fawr gyda ni, a bydd e'n lyfli gallu cael hwnna'n llawn eto, gan gadw pobl yn saff. Ni'n gweld yn barod mae pobl yn dechrau gwerthfawrogi mwy o beth sydd 'da nhw yn lleol."
Ychydig filltiroedd i ffwrdd yn Rhosmaen, mae yna arwyddion clir o fuddsoddiad enfawr ym mwyty a gwesty'r Plough yn ystod y cyfnod clo.
Mae lle i 80 o bobl erbyn hyn i fwyta tu allan, gyda nifer fawr o gazebos wedi eu codi i gadw cwsmeriaid yn sych ac yn gynnes tu allan.
Yn ôl Huw Davies, y Rheolwr Bwyd a Diod, mae yna gryn edrych 'mlaen at gael ailagor tu allan.
"Gobeithio wir bydd y tywydd o'n plaid ni a bod ni'n gallu cael pobl i ddod mewn, i fwynhau bwyd gwych a diod bach," meddai.
"Fi'n credu bod rhai o'n regulars ni wedi cysylltu i sicrhau lle i gael bwyd. Mae pobl am ddod at ei gilydd i gael chat dros fwyd."
Yn ôl Huw, mae'r busnes hefyd yn barod i ailagor dan do, pan ddaw'r diwrnod mawr ar 17 Mai.
'Bydd pobl yn dod 'nôl i Landeilo'
Yn nhref Llandeilo, mae pethau wedi prysuro yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae mwy o bobl yn cerdded o gwmpas ac yn picio i mewn ac allan o'r busnesau.
Mae'r gemydd Mari Thomas wedi ehangu'r ddarpariaeth sydd ar gael ar-lein, ond yn ôl Leanne Poulson, sydd yn Rheolwr Gweithredol, mae medru agor y drysau unwaith eto yn hollbwysig.
"Mae'r gofal ni'n medru rhoi yn y siop yn well na beth ni'n medru gwneud ar-lein," meddai. "Ni'n neud consultations ar Zoom ond mae'n fwy anodd. Ti ddim yn cael yr un profiad."
Mae hi'n medru synhwyro'r prysurdeb yn dychwelyd i strydoedd Llandeilo. "Mae hi wedi bod yn dawel ond fi'n credu pan fydd pobl yn teimlo yn fwy hyderus, byddan nhw yn dod 'nôl i Landeilo. Mae yna lawer o bobl yn dod 'nôl."
Ers dechrau'r pandemig, mae Nia Prytherch wedi symud ei siop flodau, Pinc, i leoliad newydd yn y dref. Mae hi dal yn teimlo rhywfaint yn ansicr, teimlad sydd yn cael ei rannu gan rai cwsmeriaid.
"Mae hi wedi bod yn gyfnod ansicr iawn," meddai. "Eto i gyd, mae gobaith fod pethau yn gwella. Mae yna ryw elfen o obaith ond mae'r nerfusrwydd a'r diffyg hyder dal o gwmpas."
O gerdded o gwmpas tref Llandeilo, mae hi'n glir fod busnesau yn teimlo yn obeithiol am y dyfodol.
Ond rhyw adferiad araf a phwyllog yw'r disgwyliad yn lleol, yn hytrach na llewyrch a phrysurdeb mawr dros nos.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2021