'Ro'n i wedi cynhyrfu, drysu a methu credu'r peth'
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 42 oed sy'n byw gyda chlefyd Parkinson yn dweud bod colli budd-dal wedi achosi'r teimladau gwaethaf yn ei bywyd a'i gadael gydag iselder dwfn.
Fe wnaeth Lynsey Thomas, o Ben-y-bont ar Ogwr, ddechrau derbyn y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn fuan ar ôl cael diagnosis yn 35 oed.
Ond fe gollodd y taliad - £335 y mis - yn dilyn ailasesiad y llynedd.
Dywed Adran Waith a Phensiynau (DWP) Llywodraeth y DU eu bod yn ymroddi i "sicrhau bod pobl yn cael yr holl gefnogaeth y mae hawl iddynt ei dderbyn".
Treuliodd Mrs Thomas fisoedd yn ceisio adfer y taliadau cyn i dribiwnlys ddyfarnu o'i phlaid ym mis Tachwedd 2020 ac ôl-ddyddio'r arian a oedd yn ddyledus iddi.
Mae yna alw erbyn hyn i bobl â chlefyd Parkinson dderbyn taliadau oes ac ar yr un lefel gan fod y cyflwr yn un dirywiol.
Newidiodd y DWP y drefn yn 2018 gan ddyfarnu taliadau i bara am 10 mlynedd, ac ailasesu'r unigolion gyda'r cyflyrau dwysaf "gyda chyffyrddiad ysgafn".
Ond yn ôl elusen Parkinson's UK Cymru "ychydig iawn o dystiolaeth" sydd bod y newidiadau hyn wedi cael effaith bositif.
'Methu credu'r peth'
Ymgeisiodd Mrs Thomas am radd uchaf PIP wedi i'r symptomau waethygu, ond fe gafodd lythyr fis Ebrill y llynedd yn dweud na fyddai'n derbyn unrhyw daliad o gwbl.
"Ges i sioc lwyr, ro'n i wedi cynhyrfu, wedi drysu a methu credu'r peth," meddai wrth raglen Wales Live.
"Ro'n i'n teimlo fel eu bod yn ceisio dweud nad oedden nhw'n credu'r un gair ddywedes i yn yr asesiad.
"Bu'n rhaid i mi gael sawl meddyginiaeth at insomnia ac iselder, ac fe waethygodd y Parkinson's ei hun, felly bu'n rhaid i mi gael gwahanol feddyginiaethau ar ben yr hyn ro'n i yn eu cymryd yn barod.
"Ro'n i'n teimlo'n wirioneddol isel ac wedi cael llond bol, ac oherwydd y cyfnod clo roedd popeth yn cymryd hirach ac o'n i'n teimlo'n waeth nag o'n i wedi erioed yn fy mywyd."
Dywedodd Ms Thomas, oedd wedi hyfforddi fel cymhorthydd gofal plant cyn ei diagnosis, ei bod wedi dibynnu ar gyflog ei gŵr pan gollodd y taliadau PIP.
"Wnes i golli fy annibyniaeth, sef union bwrpas y taliad," meddai.
"Ro'n i'n teimlo'n ynysig, ac er nad oes neb yn gwneud i chi deimlo eich yn bod yn faich, dyna sut y'ch chi'n teimlo.
"Chi'n dibynnu ar yr ychydig arian ychwanegol yna i wneud bywyd ychydig yn haws."
'Sarhaus'
Mae hi'n teimlo bod yr asesiad a arweiniodd at golli'r taliadau yn annigonol ac "annerbyniol".
"Dydyn nhw ddim yn asesu pobl ar sail ei bywyd bob dydd - mae'n amhosib iddyn nhw wybod beth rydych chi'n mynd trwyddo.
"Mae ymgynghorydd meddygol wedi rhoi diagnosis Parkinson i chi, ac eto maen nhw'n cymryd un golwg arnoch chi a dweud bod dim byd yn bod arnoch chi.
"Dywedodd yr aseswr hyd yn oed nad oedd iselder arna'i achos doeddwn i ddim yn edrych yn isel. Roedd hynny mor sarhaus.
"Dywedodd yr aseswr bod dim byd yn bod gyda fy mhen-glin oherwydd nes i gerdded ar draws yr ystafell, sef tri cham."
Bydd ei dyfarniad PIP diweddaraf yn para tan Fawrth 2025, felly bydd proses ailasesu newydd yn dechrau yn 2024.
"Mae'n ddychynllyd," meddai. "Chi'n meddwl gallen nhw gymryd e oddi arnoch chi eto, oherwydd iddo ddigwydd o'r blaen."
'Straen, gofid ac ansicrwydd'
"Mae Parkinson's yn gyflwr niwrolegol cynyddol hirdymor sy'n gwaethygu dros amser," medd Rachel Williams, rheolwr polisi elusen Parkinson's UK Cymru.
"Mae achosi straen, gofid ac ansicrwydd adolygiadau niferus i bobl gyda Parkinson's fel rhan o'r broses ddiffygiol yma'n hurt ac yn gwastraffu arian y llywodraeth.
"Mae'n ymddangos bod yna ddiffyg ymwybyddiaeth bod Parkinson's yn glefyd cynyddol a does dim triniaethau ar hyn o bryd all atal neu wrthdroi'r effeithiau'n effeithiol, felly ni ddylid byth israddio [taliadau] pobl gyda Parkinson's."
Cafodd y budd-dal PIP ei chyflwyno yn 2013, gan ddisodli'r Lwfans Byw I'r Anabl (DLA).
Mae'n helpu talu costau ychwanegol yn sgil byw gydag anabledd, neu gyflyrau iechyd hirdymor, boed yn gorfforol neu'n feddyliol.
Mae dau ran i'r budd-dal - lwfans byw dyddiol a lwfans symud o gwmpas, ac maen nhw'n cael eu talu ar lefel uchaf ac isaf.
Mae'r lefel isaf yn £23.70 yr wythnos a'r uchaf yn £152.15.
Dywedodd llefarydd ar ran y DWP: "Rydym yn ymroddi i sicrhau bod pobl yn cael yr holl gefnogaeth y mae hawl iddynt ei derbyn.
"Gall bobl sy'n derbyn lefel uchaf cefnogaeth PIP sydd ag anghenion na wnaiff newid, neu a all waethygu yn anffodus, dderbyn taliadau gyd-af adolygiad cyffyrddiad ysgafn bob 10 mlynedd.
"Mae adolygiadau'n sicrhau bod taliadau'n ateb gofynion cyfredol cyflwr ymgeisydd."
Wales Live, nos Fercher 2 Mehefin, 22:35, BBC One Wales ac yna ar iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd18 Mai 2018
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2016