Cyhoeddi enw dyn fu farw'n sydyn yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn 27 oed a gafodd ei ganfod yn farw yn Sir Benfro dros y penwythnos.
Cafwyd hyd i Michael Edgar ar Stryd Laws yn Noc Penfro yn oriau mân y bore ddydd Sadwrn, 29 Mai.
Dywed Heddlu Dyfed-Powys fod dau ddyn a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'r farwolaeth bellach wedi'u rhyddhau dan ymchwiliad.
Maen nhw'n parhau i ymchwilio i farwolaeth Mr Edgar ac annog y cyhoedd i gysylltu â nhw os oes ganddyn nhw wybodaeth.
"Oherwydd yr amser anodd yma i'r teulu, byddem yn annog y cyhoedd i beidio â dyfalu ar amgylchiadau'r digwyddiad hwn ond i gysylltu â'r heddlu os oes gennych unrhyw wybodaeth berthnasol," meddai'r llu.
"Mae'r teulu hefyd wedi gofyn am breifatrwydd ar yr adeg anodd hon."
Dywedodd y llu bod swyddogion arbennig yn cefnogi'r teulu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2021