'Darlun ansicr' wrth i lai o bobl siopa yng Nghymru o hyd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
siopa yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Caerdydd oedd un o'r dinasoedd welodd y cwymp mwyaf yn nifer y siopwyr

Mae siopau yng Nghymru'n wynebu "darlun ansicr" wrth i niferoedd y cwsmeriaid barhau i fod yn isel yn dilyn llacio'r cyfyngiadau.

Dyna'r rhybudd gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru, sy'n dweud bod y 12 mis diwethaf wedi bod yn "drychinebus" i siopau.

Mae niferoedd siopwyr yng Nghymru wedi cynyddu 8% rhwng Ebrill a Mai eleni, ond maen nhw dal 30% yn is nag oedden nhw ym Mai 2019 cyn y pandemig.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn cymryd camau i gefnogi'r sector.

Dim llawer o wario

Cafodd siopau na sy'n gwerthu nwyddau hanfodol ailagor eto ar 12 Ebrill, yn dilyn bron i bedwar mis o gyfnod clo yng Nghymru.

Ond mae'r ffigyrau'n dangos bod Cymru wedi gweld cwymp mwy yn nifer y siopwyr nag unrhyw wlad arall ym Mhrydain.

Llundain oedd yr unig ranbarth yn y DU welodd ostyngiad mwy, ac roedd Caerdydd yn seithfed ar restr y dinasoedd oedd wedi gweld y cwymp mwyaf.

Yn ôl Ceredig Davies, sy'n rhedeg siop Mona Liza yn Aberystwyth, maen nhw wedi bod yn gweld digon o gwsmeriaid ond ychydig iawn o wario.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Ceredig Davies mae trefi fel Aberystwyth wedi bod yn brysur, ond mae llai yn gwario

"Os rhywbeth mae'r footfall dros hanner tymor wedi bod yn uwch na 2019, achos mae pobl yn dod am y dydd neu am arhosiad byr i lan y môr," meddai.

"Felly mae trefi arfordirol Ceredigion wedi bod yn brysur iawn.

"Ond o siarad gyda pherchnogion a rheolwyr siopau eraill, dyw turnover ddim wedi bod mor uchel â 2019."

Serch hynny, mae'n dweud ei fod yn ddiolchgar am gymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau drwy'r cyfnod diweddar.

"Yn bersonol mae'n grêt gweld ein cwsmeriaid rheolaidd yn dod yn ôl a dweud 'grêt gweld chi ar agor, da gweld bod chi dal 'ma'."

Tywydd yn ffactor?

Mae Charlotte Little yn rhedeg siop gardiau ac anrhegion Doodlebug yng Nghwmbrân, ac yn dweud bod niferoedd anghyson o gwsmeriaid yn ei gwneud hi'n anodd staffio ac archebu stoc.

"Un diwrnod 'dych chi'n gweld pethau yn pigo lan, ac wedyn mae e jyst yn disgyn a chi'n cael diwrnod sy'n dawel fel y bedd," meddai.

"Ni jyst yn gobeithio bydd pobl yn cael yr hyder i ddod yn ôl, ond mae lot o wynebau fi heb weld ers sbel.

"Fi yn pendroni, 'fyddan nhw byth yn dod yn ôl?'"

Ffynhonnell y llun, Charlotte Little
Disgrifiad o’r llun,

Mae Charlotte Little yn pryderu bod cynnydd mewn siopa ar-lein wedi ychwanegu at yr ansicrwydd

Dywedodd Sara Jones o Gonsortiwm Manwerthu Cymru nad oedd y twf yn un arbennig o nodedig, ond bod gobeithion y byddai'r sefyllfa'n gwella gyda thywydd brafiach ym mis Mehefin.

Ychwanegodd: "Mae'n hanfodol bod ein llunwyr polisi yn defnyddio mesurau arloesol ac yn meddwl yn greadigol am sut all y diwydiant, ac ecosystem y stryd fawr yn ehangach, gael eu hybu drwy fesurau fel parcio am ddim neu gynllun talebau, fel yng Ngogledd Iwerddon."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi rhoi dros £2bn i fusnesau yng Nghymru, a phecyn o fesurau i rai sectorau "sy'n mynd ymhell tu hwnt i'r hyn sy'n cael ei gynnig yn Lloegr".

Ychwanegodd eu bod yn treialu canolfannau gweithio o bell yn y gymuned er mwyn annog pobl i weithio'n agosach at adref, a'u hannog i fynd i ganol trefi.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu strategaeth fanwerthu fydd yn ymateb i'r heriau sy'n wynebu'r sector yn y tymor byr, canolig a hir."