Siopau a busnesau yng Nghymru yn ailagor ar ôl y cyfnod clo

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

'Bydd e'n braf sgwrsio yn y siop yn hytrach nag ar-lein'

Mae perchnogion busnesau wedi mynegi eu rhyddhad o gael ailagor, wrth i nifer o siopau agor eu drysau ddydd Llun am y tro cyntaf ers cyn y Nadolig.

Mae busnesau cysylltiad agos a siopau sy'n gwerthu nwyddau na sy'n hanfodol wedi cael yr hawl i ailagor ar draws Cymru wedi misoedd o fod ar gau.

Cyn y newid dim ond archfarchnadoedd a siopau eraill sy'n gwerthu nwyddau angenrheidiol oedd wedi cael yr hawl i fod ar agor.

Fe gawson yr hawl i werthu nwyddau na sy'n angenrheidiol ddiwedd Mawrth, ac ar yr un diwrnod fe gafodd canolfannau garddio ailagor.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Un o'r busnesau sydd wedi agor ydy salon harddwch Hidden Beauty ym Miwmares, gyda'r perchnogion yn dweud eu bod yn edrych ymlaen yn fawr i fynd nôl i'r gwaith.

"Fe fydd hi mor braf gweld pobl eto," medd Gwen Williams a Llinos Jones.

Ffynhonnell y llun, Gwen Williams
Disgrifiad o’r llun,

Agorodd Gwen Williams a Llinos Jones eu salon ym Miwmares yn 2019

"Mi fydd hi'n braf gweld pobl wyneb yn wyneb eto, a dod yn ôl i dipyn o normality gobeithio," meddai perchnogion Hidden Beauty.

"Mi ydan ni'n llawn am y pythefnos nesaf yn barod, ac mae'n braf cael dweud bod ein cwsmeriaid yn edrych ymlaen gymaint â ni - mae hynny'n gwneud y broses o ailagor hyd yn oed yn fwy cyffrous, ac rydym yn gwerthfawrogi'r gefnogaeth.

"Mae hi wedi bod yn anodd, ond mi ydan ni wedi cael mwy o amser i baratoi ar gyfer ailagor y tro yma - chawson ni ddim llawer o notice y tro dwytha'.

"Mae'n rhaid i bob un ohonan ni wneud ei ran, fesul dipyn, i guro'r Covid."

Beth arall sy'n newid o ddydd Llun?

  • Colegau yn ail-ddechrau dysgu wyneb yn wyneb, yn gymysg â dysgu ar-lein;

  • Pob disgybl yn dychwelyd i'r ysgol;

  • Gwersi gyrru yn cael ailddechrau;

  • Lleoliadau priodas yn cael gadael i ddarpar gleientiaid ymweld â'u safle drwy apwyntiad.

Dywed Janet Francis, sy'n berchen ar Siop Tŷ Tawe yn Abertawe, ei bod wedi bod yn cynnig gwasanaeth clicio a chasglu ar gyfer ei chwsmeriaid, ond ei bod yn edrych ymlaen yn fawr at gael croesawu pobl yn ôl i'w siop anrhegion unwaith eto.

"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael cwsmeriaid nôl a chael rhyw gwmni yma hefyd, achos fi wedi bod yma ar ben fy hun ers mis Medi yn gwneud click and collect," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

"Efallai mai yn araf bach ddaw pobl yn ôl," meddai Janet Francis, perchennog Siop Tŷ Tawe

"I ddechrau efallai mai yn araf bach ddaw pobl yn ôl. Mae'r lle 'ma yn ddiogel iawn - ni wedi bod yn brysur yn paratoi ac yn dilyn y rheolau a'r trefniadau sydd yna ar gyfer ailagor.

"Felly gobeithio pan fydd pawb yn teimlo tipyn bach mwy o hyder y daw pobl nôl. Fe fyddai i yma yn aros beth bynnag!"

'Ffodus o wasanaeth ar-lein'

Dywedodd Angharad Gwyn, sy'n berchen siop Adra ym Mharc Glynllifon ger Caernarfon, bod eu busnes ar-lein wedi eu cadw nhw i fynd yn ystod y cyfyngiadau diweddaraf.

Mae'r cwmni'n arbenigo mewn cynnyrch Cymreig o bob math, o nwyddau i'r cartref i anrhegion, celf, a dillad.

Ffynhonnell y llun, Angharad Gwyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Angharad Gwyn o siop Adra fod archebion ar-lein wedi eu cadw'n brysur trwy'r cyfyngiadau diweddaraf

"Rydym yn edrych ymlaen at weld cwsmeriaid unwaith eto, ond yn ffodus dydy'r busnes ar-lein heb arafu o gwbl ac mae'r archebion yna wedi'n cadw ni'n brysur iawn," meddai.

"Yn naturiol rydym yn falch o ddweud nad ydym wedi colli busnes yn yr wythnosau diwethaf, ond mae hi wedi bod yn golled yn yr ystyr bod y siop wedi bod ar gau ac nad oeddan ni'n gallu gweld ein cwsmeriaid wyneb yn wyneb. Rydym yn edrych ymlaen i'w croesawu nhw'n ôl."

Dywedodd y bydd y siop yn ailagor ddydd Iau, 15 Ebrill, ac nid ddydd Llun, am eu bod wedi penderfynu dal ati gydag oriau agor tymor y gaeaf - dydd Iau i ddydd Sul - am y tro.

'Byw yn ganol nunlla mewn pentref bach'

I unigolion fel Sara Jones, myfyriwr addysg gynradd ym Mhrifysgol Bangor, mae'r newyddion bod gwersi gyrru yn cael ailddechrau ddydd Llun yn destun dathlu.

Ond gan ei bod yn ei blwyddyn olaf yn y brifysgol, mae'n rhaid iddi basio'i phrawf gyrru ar frys er mwyn iddi gael swydd dysgu ar ôl graddio yn yr haf.

Mae'r ffaith ei bod yn "byw yn ganol nunlla mewn pentref bach" hefyd yn ychwanegu at y pwysau i basio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y DVLA bod 420,000 o bobl yn disgwyl prawf gyrru wedi iddyn nhw gael eu canslo yn sgil y pandemig

Mae Sara wedi bod yn dysgu dreifio ers tair blynedd bellach, ac yn teimlo'n rhwystredig bod yr holl ymarfer wedi cael ei ddadwneud yn y flwyddyn ddiwethaf yn sgil y pandemig.

"Dwi wedi methu blwyddyn o wersi ac ymarfer ac mae fy theori yn rhedeg allan mis nesa, felly bydd yn rhaid i mi ei ail-wneud," meddai.

Yn y DU, mae'n rhaid i fyfyrwyr basio'r prawf gyrru ymarferol o fewn dwy flynedd o basio'r prawf theori - rheol sydd wedi'i peri pryder i bobl mewn sefyllfa debyg i Sara.

"Bydd angen 'mynedd i wneud hynna i gyd eto," meddai. "Bydd lot o waith hefyd ar ôl yr holl amser."

Yn ogystal â'r drafferth o ail-wneud ei theori a dal i fyny gyda'i sgiliau gyrru, nid oes ganddi lawer o amser sbâr ar hyn o bryd.

"Mae'n anodd ffeindio amser rhydd i ffitio gwersi dreifio i mewn efo lot o aseiniadau," meddai.

"Bydd yn rhaid i mi ffeindio hyfforddwr gyrru newydd hefyd gan fod fy hyfforddwr i'n llawn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pobl yn aros i gael mynediad i siop TK Maxx Caerdydd bore Llun

'Pwysig cadw at y rheolau'

Dywed Nick Ireland, swyddog rhanbarthol o undeb y gweithwyr siopau USDAW ei bod yn bwysig i gwsmeriaid gofio ein bod yn parhau mewn pandemig.

"Ry'n ni'n gofyn i bawb siopa yn ofalus gan gadw pellter cymdeithasol, gwisgo mwgwd, diheintio a thalu â cherdyn os yn bosib.

"Byddwch yn gwrtais tuag at weithwyr siopau - ry'ch chi yn eu lleoliad gwaith a byddwch yn amyneddgar."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae ffigyrau diweddaraf Consortiwm Manwerthu Prydain yn dweud bod llai wedi ymweld â siopau Cymru ar gyfartaledd na siopau gweddill y DU ers 2019.

Rhwng 2009 a 2019 cafodd 23,000 o swyddi eu colli yn y diwydiant manwerthu a chyfanwerthu yng Nghymru - dywed cynrychiolwyr bod Covid wedi gwneud heriau a oedd eisoes yn anodd yn fwy.

Un siop a fydd yn agor ei drysau ddydd Llun fydd Debenhams, ond dim ond ar gyfer gwerthu nwyddau cyn iddi gau'n derfynol a symud i werthu ar-lein.

Pynciau cysylltiedig