Pryder am drenau gorlawn wrth i gyfyngiadau lacio
- Cyhoeddwyd
Mae teithwyr wedi dweud nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel ar drenau gorlawn ers i gyfyngiadau ar deithio lacio yng Nghymru.
Mae lluniau wedi cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos pobl yn sefyll mewn cerbydau llawn yn ystod y gwyliau hanner tymor, gan olygu ei bod yn amhosib cadw pellter.
Dywedodd Adam Smith o Gasnewydd ei fod yn teimlo'n "bryderus ac anghyfforddus" wedi iddo fod ar drên gorlawn i Ynys y Barri ar Ŵyl y Banc.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi mynnu mai diogelwch teithwyr ydy eu "blaenoriaeth bennaf".
Mae cadw pellter cymdeithasol yn amod cyfreithiol ar drenau, ac mae'n rhaid i bawb orchuddio eu hwynebau oni bai eu bod wedi'u heithrio.
Ond mae teithwyr wedi cysylltu gyda BBC Cymru yn cwyno bod cerbydau'n ddiweddar yn aml yn llawn a'i bod yn amhosib cadw pellter oherwydd hynny.
'Hurt o llawn'
Wrth i'r haul dywynnu ar ddydd Llun Gŵyl y Banc yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth miloedd o bobl heidio i draethau a mannau prydferth eraill yng Nghymru, nifer o'r rheiny ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Wedi iddo orfod sefyll yr holl ffordd o Gasnewydd i Ynys y Barri yn y bore, roedd Mr Smith wedi synnu i weld mai dim ond dau gerbyd oedd ar y trên i'w gymryd yn ôl adref a hithau'n ddiwrnod mor brysur.
"Mae'n siŵr bod rhyw 100 o bobl yn disgwyl i fynd ar y trên - roedd e'n hurt o llawn," meddai.
Nawr fod modd i wyliau, gemau chwaraeon a chyngherddau ailagor yn yr awyr agored gyda thorfeydd, yn ogystal â mwy o bobl yn mynd ar wyliau o fewn y DU, roedd Mr Smith wedi disgwyl y byddai mwy o drenau neu fwy o gerbydau.
Dywedodd, er bod pawb yn gwisgo mygydau, ei fod wedi teimlo yn "bryderus ac anghyfforddus" ar hyd y daith yn ôl i Gasnewydd.
"Rwy'n cwestiynu nawr, yn enwedig ar gyfer taith hir, a ddylen i fynd ar drên," meddai.
"Mae pobl fel fi yn ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae angen mwy o drenau neu gerbydau fel y gallwn ni oll fod yn ddiogel tra'n teithio.
"Os dydyn ni ddim yn teithio oherwydd nad ydyn ni'n teimlo ei bod yn ddiogel gwneud hynny, bydd hynny'n cael effaith ar ddiwydiannau eraill."
Mae AS Plaid Cymru Arfon, Hywel Williams yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i bryderon tebyg ar drenau ar draws y gogledd wedi i etholwyr gwyno bod gwasanaethau rhwng Bangor a Crewe yn "beryglus".
Dywedodd bod teithwyr wedi dweud wrtho fod "rhai gwasanaethau o Crewe dros y penwythnos yn llawn, gyda dim modd o orfodi mesurau pellter cymdeithasol yn iawn, gan roi dim dewis i bobl ond i eistedd ochr yn ochr a sefyll yn yr eiliau".
'Pob mesur rhesymol'
Ym mis Rhagfyr, wrth i gyfnod clo "aros gartref" ddod i rym eto, fe wnaeth nifer y teithwyr ostwng i 5-10% o'r nifer arferol wrth i deithio hanfodol yn unig gael ei ganiatáu.
Fis Ebrill cafodd y cyfyngiadau ar deithio eu llacio, gan alluogi teithio unrhyw le o fewn Cymru a Lloegr, a bryd hynny dywedodd Trafnidiaeth Cymru bod nifer y teithwyr wedi cynyddu i 20-30% o'r lefelau arferol cyn y pandemig.
Mae gwyddonwyr yn dweud bod y perygl o drosglwyddo Covid-19 mewn cerbydau trên yn ddibynnol ar ba mor llawn ydy'r cerbyd, a pha mor bell y mae modd cadw i ffwrdd o bobl eraill.
Dan reolau Llywodraeth Cymru mae'n rhaid i gwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus cymryd "pob mesur rhesymol" i sicrhau bod pobl yn cadw dau fetr ar wahân, neu fe allan nhw wynebu dirwy.
Mae'r rheolau yn annog cwmnïau i sicrhau bod pawb yn eistedd, atal pobl rhag yfed a bwyta a sicrhau bod pobl yn archebu tocynnau ble fo hynny'n bosib.
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cydnabod yn y gorffennol y bydd sicrhau bod pobl yn gallu cadw pellter yn "her" wrth i'r galw gynyddu, ond mae'r cwmni'n mynnu bod hynny yn flaenoriaeth ac y byddan nhw yn parhau i weithredu'r holl fesurau diogelwch.
Dywedodd cyfarwyddwr diogelwch y cwmni, Leyton Powell bod Trafnidiaeth Cymru yn dilyn canllawiau'r llywodraeth.
"Ar adegau, fel pan mae tywydd braf, mae rhai gwasanaethau arfordirol yn mynd yn fwy prysur," meddai.
"Rydyn ni'n deall anghenion ein cwsmeriaid, yn monitro capasiti a ble fo'n bosib yn trefnu mwy o wasanaethau neu drafnidiaeth ar y ffyrdd.
"Mae systemau ciwio mewn lle yn ein gorsafoedd prysuraf i amddiffyn cwsmeriaid a staff ac i wneud cadw pellter yn haws."
Gwasanaethau newydd
Daw pryder teithwyr wedi i fath newydd o drên intercity wneud ei thaith gyntaf o Gaergybi i Gaerdydd fore Llun.
Yn ôl Trafnidiaeth Cymru bydd y gwasanaeth newydd yn cynyddu capasiti ac yn darparu "gwasanaeth dosbarth cyntaf" i deithwyr yng Nghymru.
Dywedodd y gweinidog sy'n gyfrifol am ogledd Cymru, Lesley Griffiths - oedd yn un o'r teithwyr ar y gwasanaeth newydd am 05:34 fore Llun - bod cael trenau o safon yn "gam positif arall tuag at annog mwy o bobl yn ôl ar drenau".
Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd wedi dadorchuddio pedwar o drenau newydd - oll gyda phum cerbyd yr un - fydd yn gwasanaethu'r llwybr rhwng Abertawe a Manceinion o fis Rhagfyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mai 2021
- Cyhoeddwyd4 Mai 2021
- Cyhoeddwyd1 Mai 2021