Pum chwaraewr heb gap yng ngharfan rygbi Cymru

  • Cyhoeddwyd
Gareth Thomas, Ben Carter, Taine Basham, Ben Thomas a Tom RogersFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib y bydd Gareth Thomas, Ben Carter, Taine Basham, Ben Thomas a Tom Rogers oll yn ennill eu capiau cyntaf

Mae pum chwaraewr sydd heb ennill cap rhyngwladol wedi cael eu cynnwys yng ngharfan rygbi Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Canada ac Ariannin fis nesaf.

Mae prop y Gweilch Gareth Thomas, Ben Carter a Taine Basham o'r Dreigiau, canolwr y Gleision Ben Thomas ac asgellwr y Scarlets Tom Rogers wedi'u henwi yn y garfan o 34 chwaraewr.

Y canolwr Jonathan Davies fydd yn gapten ar y garfan, tra bod 10 o enwau mawr y tîm i ffwrdd yn Ne Affrica gyda'r Llewod.

Bydd Cymru'n herio Canada ar 3 Gorffennaf cyn wynebu Ariannin ddwywaith ar 10 a 17 Gorffennaf.

Yn ôl canllawiau presennol Llywodraeth Cymru bydd hyd at 10,000 o gefnogwyr yn cael mynychu'r gemau yn Stadiwm Principality.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jonathan Davies fydd yn arwain y garfan yn absenoldeb Alun Wyn Jones

Dywedodd y prif hyfforddwr, Wayne Pivac bod y gemau dros yr haf yn "gyfle i ddangos i'r chwaraewyr newydd sut beth yw paratoi ar gyfer gêm brawf, ac i rai, chwarae mewn gêm brawf".

"Dydy'r haf hwn ddim am y chwaraewyr sydd heb gapiau yn unig - bydd hefyd yn rhoi mwy o brofiad i'r rheiny sydd eisoes wedi ymddangos dros y tîm cenedlaethol," meddai.

"Mae'n gyfle iddyn nhw ddechrau mwy o gemau a chamu i rôl arweinwyr, felly mae'r cyfnod yma am fod yn un pwysig i ni."

Bydd y garfan yn teithio i ogledd Cymru i hyfforddi cyn dychwelyd i Gaerdydd ar gyfer y gemau fis nesaf.

Y garfan yn llawn

Blaenwyr

Rhodri Jones (Gweilch), Nicky Smith (Gweilch), Gareth Thomas (Gweilch), Elliot Dee (Dreigiau), Ryan Elias (Scarlets), Sam Parry (Gweilch), Leon Brown (Dreigiau), Tomas Francis (Caerwysg), Dillon Lewis (Gleision Caerdydd), Adam Beard (Gweilch), Ben Carter (Dreigiau), Cory Hill (Gleision Caerdydd), Will Rowlands (Wasps), Taine Basham (Dreigiau), James Botham (Gleision Caerdydd), Ross Moriarty (Dreigiau), Josh Navidi (Gleision Caerdydd), Josh Turnbull (Gleision Caerdydd), Aaron Wainwright (Dreigiau).

Olwyr

Kieran Hardy (Scarlets), Tomos Williams (Gleision Caerdydd), Rhodri Williams (Dreigiau), Callum Sheedy (Bryste), Jarrod Evans (Gleision Caerdydd), Jonathan Davies (c)(Scarlets), Willis Halaholo (Gleision Caerdydd), Nick Tompkins (Saracens), Ben Thomas (Gleision Caerdydd), Hallam Amos (Gleision Caerdyddd), Leigh Halfpenny (Scarlets), Jonah Holmes (Dreigiau), Owen Lane (Gleision Caerdydd), Ioan Lloyd (Bryste), Tom Rogers (Scarlets).

Pynciau cysylltiedig