Canllawiau yn gorchymyn dim canu cynulleidfaol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
AddoliFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyw'r canllawiau ddim yn caniatáu canu cynulleidfaol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd, dolen allanol i addoldai ar gynnal gwasanaethau wrth i'r cyfyngiadau lacio yng Nghymru.

Er bod cerddoriaeth fyw yn cael ei ganiatáu dan amgylchiadau arbennig nid yw hynny'n wir am ganu cynulleidfaol.

Dywed y canllawiau fod peryglon gwasgaru'r haint yn rhy fawr i ganiatáu canu cynulleidfaol. O dan amgylchiadau arbennig iawn y mae partïon bychain o gantorion yn cael canu mewn oedfa.

Mae cadw pellter o ddau fedr yn parhau, gwisgo masgiau, cadw cofnod o bresenoldeb, glanhau dwylo a chynnal system unffordd i ddod i mewn a gadael yr adeilad.

Mae hi'n ofynnol glanhau'r adeilad yn drylwyr ac osgoi defnyddio toiledau a pheidio rhannu paned neu fwyd.

Mae'n rhaid parhau i gynnal asesiad risg trylwyr ac mae gofyn i arweinydd oedfa un ai wisgo masg, defnyddio feisor neu sgriniau a dilyn mesurau hylendid manwl.

Ffynhonnell y llun, Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae cadw pellter cymdeithasol yn parhau'n orfodol

Nid oes uchafswm penodedig ar gyfer y nifer all fynychu oedfa dan do, rhaid i bob addoldy asesu yr uchafswm diogel gan ystyried y rheolau cadw pellter.

Bellach fe gaiff aelwyd estynedig (sef hyd at dair aelwyd o unrhyw faint) gyd-eistedd mewn oedfa a gall un aelwyd lle nad oes ond un oedolyn ymuno gyda'r aelwyd estynedig hefyd.

O dan y rheolau newydd mae modd cynnal gweithgareddau awyr agored ar gyfer hyd at 4,000 o bobl os ydynt yn sefyll ar eu traed, a hyd at 10,000 os ydynt yn eistedd.

Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i addoliad hefyd.

Gall 4,000 neu 10,000 o bobl fod yn bresennol mewn te angladd neu barti priodas tra eu bod yn yr awyr agored, yn gwisgo masg ac yn cadw pellter o ddau fedr.

Ond parhau y mae'r cyfyngiad i 30 o wahoddedigion i angladd neu briodas dan do.

'Wedi colli gormod o anwyliaid'

Mae nifer fawr o addoldai yn croesawu'r canllawiau newydd a nifer o gapeli yn ailagor - yn enwedig lle mae digon o wirfoddolwyr i sicrhau y rheolau.

Ffynhonnell y llun, Capel Blaenconin
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd capel Blaenconin yn Sir Benfro yn agor am y tro

I eraill mae'r peryglon yn dal yn real iawn. Dywed y Parchedig Huw George sy'n weinidog ar gapel Blaenconin yn Sir Benfro na fydd y capel yn debygol o agor tan fis Medi.

"Mae fel dweud wrthych y cewch fenthyg fy nghar i, ond dyw'r brêcs ddim yn gweithio'n dda, ond croeso i chi ei fenthyg 'run fath," meddai.

"Rydym wedi gweld colli gormod o anwyliaid i allu agor y drysau ar hyn o bryd."

Ond fel arall y mae hi ym Methlehem Newydd Sanclêr. Dywed Annalyn Davies, sydd yn aelod yn yr ofalaeth, bod Covid wedi creu ysbryd newydd yn y capel.

"Fe sylweddolwyd fod rhaid newid y ffurf o addoli a hefyd fod rhaid estyn mas i'r gymuned - gwneud mwy gyda'r gymuned," meddai.

"Mae gan yr ofalaeth gynlluniau newydd i gyflwyno technoleg gan drawsnewid yr adeilad a'r ddarpariaeth."

Pynciau cysylltiedig