Drakeford: Honiad brechu Hancock yn 'ffeithiol anghywir'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

"Dydyn ni ddim wedi defnyddio unrhyw frechlynnau o gronfa wrth gefn Lloegr," meddai Mark Drakeford

Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhuddo Gweinidog Iechyd Lloegr o wneud sylwadau "ffeithiol anghywir" am y rhaglen frechu yng Nghymru.

Roedd Matt Hancock wedi dweud bod Cymru wedi llwyddo i frechu cyfran uwch o'i phoblogaeth am y gall ddefnyddio cyflenwad wrth gefn Lloegr pe bai'n rhedeg allan o frechlynnau.

Ond yn ôl Mark Drakeford mae llwyddiant Cymru yn seiliedig ar reoli ei stoc ei hun, nid dibynnu ar gyflenwad ychwanegol o Loegr.

Mae gan Gymru un o'r rhaglenni brechu cyflymaf yn y byd ar hyn o bryd.

Yn Lloegr mae pobl 25 i 29 oed bellach yn gallu mynd am eu brechlyn cyntaf, ond yng Nghymru mae dros hanner y bobl 18 i 29 oed eisoes wedi cael o leiaf un dos brechlyn.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bu Gweinidog Iechyd Lloegr, Matt Hancock yn rhoi tystiolaeth yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Iau

Roedd Mr Hancock wedi dweud wrth bwyllgor yn San Steffan ddydd Iau mai trefniadau cyflenwi brechlynnau wrth gefn Lloegr yw'r rheswm pam fod rhaglen frechu Cymru'n gyflymach.

Dywedodd bod angen i weinidogion y DU sicrhau cyflenwadau digonol cyson ar gyfer ail ddosau, tra bod Cymru'n gallu gofyn am gyfran o gyflenwad Lloegr pe bai angen.

Ychwanegodd mai undeb pedair cenedl y DU sydd wedi helpu Cymru i gael un o'r rhaglenni brechu cyflymaf drwy'r byd.

Ond yn ymateb i'r sylwadau ar raglen Newsnight y BBC nos Iau, dywedodd Mr Drakeford bod hynny yn "ffeithiol anghywir".

"Dydyn ni ddim wedi defnyddio unrhyw frechlynnau o gronfa wrth gefn Lloegr," meddai.

"Rydyn ni'n rheoli ein stoc ein hun ac mae gennym un o gyfraddau brechu gorau'r byd oherwydd y ffordd mae'r rhaglen yng Nghymru wedi cael ei threfnu a'i chyflawni."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhaglen frechu Cymru'n un o'r rhai cyflymaf drwy'r byd

Roedd Mr Hancock wedi dweud bod rhaid i Lywodraeth y DU sicrhau cyflenwadau wrth gefn fel bod yna ddigon ar gael "beth bynnag sy'n digwydd yn nhermau diogelwch cyflenwadau".

"Fe benderfynodd ein cydweithwyr yng Nghymru yn erbyn y fath buffer a bwrw ymlaen gan dybio y byddai cyflenwadau'n dod," meddai.

"Ond roedden nhw hefyd yn gwybod petai yna doriad i gyflenwadau y byddai buffer Lloegr yn cael ei ddefnyddio i sicrhau na fyddai unrhyw un yng Nghymru'n methu cael ail frechiad.

"Dydy hynny ddim yn benderfyniad y galla'i ei wneud ar gyfer Lloegr oherwydd ni fedra' i fynd ar ofyn buffer unrhyw un arall."

Mae hynny, medd Mr Hancock, yn tanlinellu "gwerth rhaglen frechu'r DU gyfan ac mae'r ffaith ein bod wedi gweithredu ar sail y DU gyfan yn fuddiol i bawb, gan gynnwys Cymru".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Llywodraeth Cymru #DiogeluCymru

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Llywodraeth Cymru #DiogeluCymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ddydd Iau: "Mae llwyddiant ein rhaglen frechu, sydd o'r radd flaenaf, yn ganlyniad cynllunio rhagorol a gwaith caled ac ymroddiad ein timau brechu ar draws Cymru.

"Mae'n anghywir i awgrymu ein bod yn dibynnu ar 'buffer Seisnig' gan bod gyda ni gyflenwadau ein hunain ac mewn gwirionedd yn anfon canran lai o'r brechlyn i'n canolfannau na gwledydd eraill y DU."