Amrywiolyn Delta: Cynnydd mawr yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Prawf CoronafeirwsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r awdurdodau'n annog pobl i fynd am brawf Covid os oes ganddynt symptomau

Fe ddywed Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 178 o achosion o amrywiolyn Delta wedi eu cadarnhau yng Nghymru.

Mae hynny'n gynnydd o 81 o achosion ers 3 Mehefin.

Ymddangosodd amrywiolyn Delta yn India yn y lle cyntaf, cyn lledaenu ymhellach.

Dywedodd llefarydd: "Rydym yn hysbysu'r cyhoedd fod Cymru'n dechrau gweld trosglwyddiad cymunedol lleol o'r amrywiolyn, gyda mwy o dystiolaeth am achosion ymhlith pobl sydd heb deithio.

"Mae mwyafrif yr achosion o Covid Delta yng Nghymru wedi bod o amgylch clwstwr o achosion yn y gogledd a chlwstwr yn y de, ond rydym hefyd yn dechrau gweld achosion sydd heb gysylltiad gyda'r ardaloedd yma ac mewn mannau eraill yng Nghymru."

Gwelwyd rhai o'r achosion cyntaf o amrywiolyn Delta yn y DU yng ngogledd Lloegr, ac yn fuan wedyn cafwyd clwstwr yn ardal Llandudno.

Nid oes awgrym bod yr amrywiolyn yn gwneud pobl yn fwy sâl, ond mae tystiolaeth yn cadarnhau ei fod yn lledaenu'n gynt.

'Anymarferol' cau'r ffin

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwelwyd clwstwr o achosion amrwyiolyn Delta yn Llandudno, Cyffordd Llandudno a Bae Penrhyn yn ddiweddar

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn cadarnhad o achosion o'r amrywiolyn Delta ym Mhowys, lle mae penaethiaid iechyd wedi agor canolfan brofi frys yn Y Drenewydd, ac maen nhw'n annog pobl i gael prawf Covid.

Roedd pedwar achos newydd o'r coronafeirws yn y sir yn ystod y saith diwrnod diwethaf, ond nid yw'r ffigyrau'n dangos faint o'r rhain oedd yn amrywolion Delta.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) wedi agor canolfan brofi "galw-i-mewn" yn Y Drenewydd, fydd ar agor saith diwrnod yr wythnos, drwy gydol Mehefin, ar gyfer pobl sydd ddim yn dangos unrhyw symptomau.

Mae canolfannau profi eraill yn nifer o drefi'r sir, ac mae BIAP hefyd wedi cynyddu'r nifer o lefydd lle gellir cael profion llif unffordd (lateral flow test).

Disgrifiad o’r llun,

Bu'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn rhoi diweddariad ar y coronafeirws yn y Senedd bnawn Mawrth

Yn y Senedd dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, ei bod wedi gofyn i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a fyddai'n bosibl "cyflymu" darparu ail ddos o'r brechlyn mewn mannau.

"Rwyf wedi bod yn siarad â Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ychydig oriau yn ôl i ofyn, yn yr ardal honno, a yw'n bosibl," meddai.

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn "ymwybodol iawn, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae'r amrywiad [Delta] yn dod i'r amlwg, bod angen i ni gyflymu'r broses".

Pan ofynnwyd iddi gan Rhun ap Iorwerth pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried er mwyn atal yr amrywiolyn Delta rhag lledaenu o fannau problemus, fel y rhai yng ngogledd orllewin Lloegr, dywed Ms Morgan y gofynnwyd i deithwyr i Gymru gael prawf cyn teithio - ond ei bod yn anodd sicrhau bod pobl yn gwneud hynny.

Dywed Ms Morgan hefyd ei bod yn "anymarferol" cau'r ffin.

Dadansoddiad Gohebydd Iechyd BBC Cymru, Owain Clarke

Mae'r cynnydd yn yr achosion o'r amrywiolyn Delta yn achosi pryder i swyddogion iechyd.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae yna dystiolaeth bellach o ledaeniad cymunedol gydag achosion yn cael eu cofnodi ymhlith unigolion sydd heb gysylltiad ag unrhyw un sydd wedi teithio dramor.

Mae'n ymddangos fod na glystyrau penodol yn ne ac yng ngogledd Cymru, gyda'r pryder mwyaf am glwstwr yn Sir Conwy.

Mae ymchwil yn dangos bod dau ddos o frechlyn Covid yn rhoi diogelwch llawer cryfach yn erbyn yr amrywiolyn hwn - dim syndod felly bod y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi gofyn i bennaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ystyried ffyrdd o gyflymu dosbarthu ail ddosau.

Er fod yr amrywiolyn Delta yn dechrau disodli amrywiolyn Alpha, neu Caint, fel y straen mwyaf amlwg ar draws Prydain - ar hyn o bryd nifer cymharol fach sydd wedi datblygu salwch difrifol o'i ganlyniad. Mae'r mwyafrif o'r rhai hynny yn unigolion heb eu brechu.

Er y pryder naturiol am yr amrywiolyn, mae'n werth cofio bod achosion Covid, yn gyffredinol, yn parhau yn isel yng Nghymru ac wedi bod yn weddol sefydlog am wythnosau bellach.

Eto i gyd mi fydd yr arbenigwyr yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa.

'Dal yn fygythiad mawr'

"Mae coronafeirws yn dal i fod yn fygythiad mawr i iechyd cyhoeddus, ac mae amrywiolion newydd yn mynd o gwmpas," meddai Stuart Bourne, cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Powys.

Mae'r datblygiadau diweddaraf yn golygu y dylai pawb ddilyn y rheolau syml - golchi dwylo, gwisgo mwgwd, a chadw pellter - meddai, a dylai pawb sy'n gymwys gwblhau'r cwrs brechu gyda dau ddos o'r brechlyn.

"Trwy gydol Mehefin bydd profion PCR ar gyfer pobl gyda symptomau Covid-19 yn parhau i fod ar gael yn ein safleoedd profi yn Aberhonddu, Llanfair ym Muallt, Machynlleth, Y Drenewydd, Y Trallwng, ac Ystradgynlais," meddai.

Mae profion llif unffordd ar gael yn Aberhonddu, Llanfair-ym-Muallt, Crughywel, Y Gelli Gandryll, Llandrindod, Llanidloes, Machynlleth, Y Drenewydd ac Ystradgynlais.

Gallwch archebu'r ddau fath o brawf drwy'r post.

Mae canolfan brofi frys Y Drenewydd wedi'i lleoli yng Nghanolfan Gofal Dydd Park Street ac mae ar agor saith diwrnod yr wythnos o 10:00 tan 18:00. Nid oes angen apwyntiad.