Euro 2020: Bale yn barod i arwain Cymru yn Baku
- Cyhoeddwyd
Mae Gareth Bale wedi dweud y bydd bod yn gapten ar Gymru yng ngêm agoriadol Euro 2020 yn erbyn Y Swistir ddydd Sadwrn yn un o uchafbwyntiau ei yrfa.
Fel y gwnaeth cyn Euro 2016, mae Bale - sydd wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr bedair gwaith gyda Real Madrid - wedi chwarae rhan flaenllaw wrth i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol pencampwriaeth Ewrop am yr eildro yn olynol.
Daeth yn gapten pan ymddeolodd Ashley Williams o bêl-droed yn gynharach eleni.
"Bydd yn anrhydedd enfawr cael gwisgo 'arm band' y capten," meddai Bale.
"Mae'n anrhydedd beth bynnag, ond mae cael arwain eich gwlad mewn pencampwriaeth fawr yn mynd i fod yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa."
Er mai Bale yw'r prif sgoriwr i Gymru erioed gyda 33 gôl dros ei wlad, nid yw wedi taro cefn y rhwyd mewn 11 gêm i Gymru.
Ond mae'n teimlo'n barod amdani.
"Dwi wedi dweud o'r cychwyn bod dim ots pwy sy'n sgorio - y canlyniad sy'n bwysig," ychwanegodd.
"Mae'n wir mod i heb sgorio ers tro, ond dwi wedi cynorthwyo gyda chwe neu saith yn y cyfnod yna, felly rwy'n dal i gyfrannu i'r goliau.
"Dwi'n poeni dim. Rwy'n gwybod lle mae cefn y rhwyd, ac os daw cyfle i mi, rwy'n siŵr y byddai'n ei gymryd."
Mae Cymru mewn grŵp anodd gyda'r Swistir, Yr Eidal a Thwrci yng Ngrŵp A.
Mae'r Eidal a'r Swistir yn uwch na Chymru ar restr detholion y byd, a Twrci yw'r isaf yn rhif 29.
Ond o edrych nôl i Ffrainc bum mlynedd yn ôl, roedd sefyllfa Cymru'n ddigon tebyg, gyda Lloegr a Slofacia yn uwch ar y rhestr na Chymru, a Rwsia ddim ymhell y tu ôl iddyn nhw.
Ond beth am Y Swistir?
Enillodd Y Swistir Gwpan Dan-17 y byd yn 2009, ac fe ddaethon nhw'n ail ym Mhencampwriaeth Ewrop Dan-21 yn 2011. Roedd disgwyl pethau mawr gan y tîm.
Ond dydyn nhw ddim wedi gwireddu'r disgwyliadau mawr yna, ac er iddyn nhw gyrraedd rowndiau terfynol saith o'r wyth cystadleuaeth rhyngwladol diwethaf, dydyn nhw heb fynd ymhellach na'r ail rownd yn yr un ohonyn nhw.
Mae yna enwau mawr wrth gwrs. Roedd capten Arsenal, Granit Xhaka, chwaraewr dawnus Lerpwl, Xherdan Shaqiri a golwr Borussia Monchengladbach, Yann Sommer i gyd yn y garfan dan-21 yna yn 2011, ac o bosib dyma gyfle ola'r triawd i wneud eu marc.
Newyddion y timau
Mae carfan Cymru - y 26 ohonyn nhw - yn holliach i gael eu dewis ar gyfer y gêm gynta', er i Aaron Ramsey fethu sesiwn ymarfer ddydd Iau. Roedd hynny'n rhan o'r cynllun.
Dywedodd y rheolwr Robert Page: "Mae cyrraedd y bencampwriaeth gyda charfan lawn yn ffit yn glod i'r tîm meddygol a'r criw 'cefn llwyfan'.
"Fe ges i sgwrs dda gydag Aaron tua mis yn ôl am y paratoad yr oedd e angen - dyna'r math o beth sy'n bwysig.
"Paratoi fel criw a weithiau paratoad unigol ar gyfer person arbennig. Mae e wedi gweithio."
Mae rhai cefnogwyr wedi gofyn pam nad yw Keiffer Moore yn dechrau'n amlach - fe sgoriodd goliau pwysig yn yr ymgyrch ragbrofol, ond dydi e ond wedi dechrau dwy o'r wyth gêm ddiwethaf i Gymru.
Gwell gan Page chwarae heb flaenwr amlwg, ond dyw e heb roi cliwiau am yr 11 fydd yn dechrau b'nawn Sadwrn.
"Does dim angen dadl fawr. Rwy'n gwybod ers rhai wythnosau bellach pwy fydd fy 11.
"Peidiwch darllen gormod i'r timau ar gyfer y gemau cyfeillgar diweddar. Y tîm fydd yn wynebu'r Swistir yw'r peth pwysicaf ar hyd yr adeg, a ffordd o gyrraedd yr 11 yna oedd y gemau eraill."
Fel yn 2016, dyw'r gwybodusion ac ystadegwyr ddim yn rhoi llawer o obaith i Gymru. Mae cwmni ystadegau Gracenote yn amcangyfrif bod gan Gymru obaith o 1.3% o ennill Euro 2020, a'r Swistir yw'r ffefrynnau ar gyfer gêm brynhawn Sadwrn.
Ond rydan ni gyd wedi clywed pethau felly o'r blaen!
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2021