Cwmni mwyngloddio'n euog o dorri rheolau diogelwch
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni mwyngloddio wedi ei gael yn euog o dorri cyfreithiau iechyd a diogelwch wedi i weithiwr yno gael ei anafu'n ddifrifol.
Cafodd glöwr ei anafu wedi i bren oedd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r to dorri yn Y Creunant, Castell-nedd Port Talbot yn 2017.
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod cyfarwyddwr cwmni Three D's Mining Ltd wedi wfftio pryderon nad oedd y pren yn ddigon cadarn i gefnogi'r to.
Bydd y cwmni yn cael ei ddedfrydu ym mis Medi.
Fe wnaeth y rheithgor gymryd awr yn unig i ganfod y cwmni yn euog o fethu â sicrhau diogelwch a lles gweithwyr a phobl eraill, a methu â chynnal asesiad risg digonol.
'Defnyddiwch nhw neu ewch adref'
Cafodd Gwyn Woodland ei anafu'n ddifrifol gan garreg a gwympodd arno ym Mhwll Glo Danygraig ym mis Tachwedd 2017.
Dydy Mr Woodland ddim wedi gallu gweithio ers hynny, ac mae'n parhau â phroblemau iechyd wedi iddo dorri tri asgwrn yn ei gefn yn y digwyddiad.
Roedd y cwmni yn gwadu torri rheolau iechyd a diogelwch ond fe wnaeth y rheolwr ar y pryd, Vivian Gedamke, ddweud wrth y llys bod gweithwyr wedi mynegi pryder am y defnydd o'r pren tenau i gefnogi to'r pwll glo.
Dywedodd wrth y llys ei fod wedi adrodd hynny i'r cyfarwyddwr, David Jones, wnaeth ateb: "Fe allwch chi un ai eu defnyddio nhw neu fynd adref."
Roedd yr achos wedi clywed bod y pren oedd yn cael ei ddefnyddio tua thraean o'r trwch oedd ei angen.