Galw am ymchwiliad wedi achos o drywanu mewn carchar
- Cyhoeddwyd
Mae tri Aelod Seneddol wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus ar ôl i swyddog carchar ddioddef anafiadau erchyll mewn "ymosodiad cyllell" gan garcharor.
Mae'r ASau yn honni i'r ymosodiad ddydd Sadwrn yng ngharchar Abertawe ddigwydd ar ôl i'r carcharor fygwth swyddog carchar benywaidd trwy ddweud y byddai'n "sleisio ei hwyneb ar agor".
Dywedodd yr Aelodau Seneddol Geraint Davies, Carolyn Harris a Tonia Antoniazzi y dylai fod mewn carchar Categori A diogelwch uchel.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai: "Dydyn ni ddim yn goddef unrhyw ymosodiad ar ein staff sy'n gweithio'n hynod o galed - ac fe fyddwn ni'n pwyso am y gosb drymaf bosib."
Fe wnaeth y llefarydd nodi hefyd nad yw'r anafiadau a gafodd y swyddog yn rhai sy'n bygwth bywyd ac fe gadarnhaodd bod swyddog wedi gorfod cael triniaeth ysbyty ar 12 Mehefin a bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau.
Mewn llythyr ar y cyd a anfonwyd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, Robert Buckland, mae'r tri AS wedi galw am gyhuddo'r carcharor o geisio llofruddio a'i symud ar unwaith.
Dywedon nhw fod y carcharor wedi ei drosglwyddo i Abertawe, carchar dynion categori B/C, ar 14 Ebrill, ar ôl trywanu cyd-garcharor dro ar ôl tro yn ei ben yng ngharchar Berwyn yn Wrecsam ar 29 Mawrth.
Mae disgwyl i'r ASau hefyd gwrdd â llywodraethwr y carchar i godi cwestiynau a pharhau i gysylltu ag undeb Cymdeithas y Swyddogion Carchardai (POA).