Theatr byw yn dychwelyd i Theatr Clwyd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Theatr ClwydFfynhonnell y llun, John S Turner/Geograph

Gwirio tymheredd, rheolau dau fetr, pawb i wisgo mwgwd, dim ciwio - dyma rai o reolau newydd Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug, wrth groesawu cynulleidfaoedd i'w theatrau dan do am y tro cynta' ers dechrau'r pandemig.

Mae'r arweinwyr yno yn falch iawn fod perfformiadau yn ailddechrau, ond yn cydnabod nad ydy pob theatr yng Nghymru mor lwcus.

"Mae o mor braf ein bod ni'n gallu cael sioeau go iawn yn digwydd yn ein theatrau ni, ac mae hi'n braf hefyd cael ein staff i gyd yn ôl," meddai Gwennan Mair, cyfarwyddwr ymgysylltu creadigol y theatr.

Oherwydd y cyfyngiadau, mae capasiti awditoriwm Anthony Hopkins, Theatr Clwyd yn cael ei leihau o 600 i tua 120.

"O ran Covid 'da ni wedi rhoi lot o ganllawiau mewn lle," meddai Gwennan Mair.

"Mi fydd pawb sydd yn dod i mewn i'r theatr yn cael cymryd eu tymheredd. Mi fydd pawb yn cadw dau fetr ar wahân ac yn gorfod gwisgo mygydau yn y theatrau a rownd yr adeilad."

Dywedodd fod gwisgo mygydau yn ystod perfformiadau yn ddibynnol ar y sioe.

"Mae'n dibynnu faint o bobl sy'n gwylio'r sioe. Ond 'da ni yn argymell pobl i wisgo mygyda'," meddai.

'Dyheu am y diwrnod'

Dywed yr actor Rhodri Meilir fod gweld cynulleidfaoedd yn dychwelyd yn hwb mawr.

"De ni gyd wedi bod yn dyheu am y diwrnod yma i ddychwelyd," meddai.

"Mae wedi bod yn braf i ddod yn ôl at be oedden ni'n wneud gynt. Yn amlwg dydy ddim yn union fel oedd hi ond mae'r rhaid gwneud yn siŵr fod y gynulleidfa yn teimlo yn saff.

"Felly de ni'n cael rhyw 100 ond mae'r theatr mor llawn a gallai fod o dan yr amgylchiadau."

Ffynhonnell y llun, Ffotonant
Disgrifiad o’r llun,

Yr actor Rhodri Meilir sy'n perfformio yn y cynhyrchiad 'For The Grace Of You Go I'

Dywed Liam Evans-Ford, cyfarwyddwr gweithredol y theatr nad yw'r trefniant presennol "yn ddatrysiad tymor hir, ond mae'n rhaid i ni gymryd pethau gam wrth gam".

Mae arweinwyr Theatr Clwyd yn deud eu bod yn gwbl gefnogol o gynlluniau Llywodraeth Cymru o ran codi cyfyngiadau yn araf.

"Mae Llywodraeth Cymru yn bendant wedi ein harwain ni mewn ffordd ddiogel," meddai Gwennan Mair.

Gyda chymorth cynllun ffyrlo Llywodraeth San Steffan, mae Theatr Clwyd wedi llwyddo i oroesi'r argyfwng.

Gobeithio am ragor o lacio

Ond mae'r cyfyngiadau a'r rheolau pellter cymdeithasol yn cael effaith ariannol oherwydd bod llai o bobl yn cael mynd i mewn i'r theatrau.

"Mi allwn gynnal y theatr yn iawn am y tro, cyn belled â bod y rheol dau fetr yn lleihau erbyn y Nadolig," meddai Liam Evans-Ford.

"Mae'r Nadolig yn gyfnod ffyniannus iawn i ran fwyaf o theatrau drwy Brydain.

"Os ydy'r rheolau pellter dau fetr yn parhau bryd hynny, yna mi fydd pethau'n edrych yn ddrwg i ni yn ariannol."

Y llynedd, fe wnaeth Theatr Clwyd adeiladu theatr awyr agored dros dro ochr yn ochr â'r adeilad.

Fe fydd yr adnodd yma'n cael ei ddefnyddio eto dros yr haf, gyda chynulleidfaoedd mwy niferus na'r hyn a ganiateir dan do am gryn amser eto.