Cwmni batris yng Nglyn Ebwy yn creu 105 o swyddi

  • Cyhoeddwyd
Glyn EbwyFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffatri yng Nglyn Ebwy wedi derbyn £2.5m gan Lywodraeth Cymru

Mae dros 100 o swyddi newydd yn cael eu creu mewn ffatri batris yng Nglyn Ebwy.

Cyhoeddodd cwmni GS Yuasa y bydd 105 o swyddi newydd yn cael eu creu yn eu ffatri ar Stad Ddiwydiannol Rasa.

Derbyniodd y cwmni £2.5m gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r gwaith cynhyrchu a gwella effeithlonrwydd ynni ar y safle.

Mae batris diwydiannol sy'n cael eu creu gan y cwmni ar gyfer cerbydau, ac yn cael eu defnyddio mewn ceir, carafanau, diogelwch a thelegyfathrebu.

Yn ystod y pandemig maen nhw hefyd wedi cynhyrchu ynni ar gyfer ysbytai maes y GIG a phrosiectau meddygol eraill.

Dywedodd y cwmni fod y gefnogaeth ariannol, a ddaeth o Gronfa Dyfodol Economaidd Llywodraeth Cymru, yn allweddol i greu cyfleoedd cyflogaeth newydd a gwarchod dyfodol hir dymor y safle.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething bod y gronfa yn hanfodol wrth gefnogi busnesau ledled Cymru

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Mae GS Yuasa yn gyflogwr hynod bwysig yng Nglyn Ebwy ac mae'r newyddion bod y busnes yn buddsoddi yn ei ddyfodol i'w groesawu'n fawr.

"Mae ein Cronfa Dyfodol yr Economi yn parhau i fod yn hanfodol i gefnogi busnesau ledled Cymru a bydd yn allweddol i helpu busnesau fel GS Yuasa i ffynnu ar ôl pandemig.

"Bydd hyn yn amhrisiadwy wrth i'r cwmni baratoi i ymateb i heriau a chyfleoedd yn y dyfodol.

"Mewn cyfnod economaidd mor eithriadol o anodd, bydd yr hwb ariannol hwn hefyd yn hwb gwirioneddol i drigolion a'n gweledigaeth uchelgeisiol ond cyraeddadwy ar gyfer Cymoedd Technoleg er mwyn sbarduno twf ar draws blaenau'r cymoedd.

"Mae ymchwil a datblygu, arloesi a datgarboneiddio wrth wraidd ein rhaglen Cymoedd Technoleg, felly mae'r gwaith arloesol y mae GS Yuasa yn ei wneud yn enghraifft wych o'r camau hyn ar waith."

Pynciau cysylltiedig