Hawl i ganu mewn addoldai yng Nghymru unwaith eto

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
addoli mewn eglwysFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd pobl yn cael canu mewn addoldai yng Nghymru unwaith eto o'r penwythnos yma ymlaen - cyn belled â'u bod nhw'n gwisgo mwgwd.

Fe fydd hefyd hawl llafarganu a chwarae offerynnau, wedi i Lywodraeth Cymru lacio'u rheolau.

Mae arweinwyr eglwysi wedi croesawu'r newid, gan ddweud bod eu cynulleidfaoedd wedi methu elfen gymdeithasol y canu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Bydd yn rhaid i leoliadau gynnal asesiad risg yn gyntaf, wedi i'r llywodraeth benderfynu bod cyfraddau Covid bellach digon isel.

'Ffordd bwysig o fynegi'

Dywedodd Delyth Morgan Phillips, aelod o gôr Corisma yng Nghwm-Ann ger Llanbed, bod canu dros Zoom wedi bod yn "brofiad hollol wahanol".

"Pan dyw'r côr ddim yn cyfarfod chi'n colli'r gwmnïaeth yna," meddai.

"Ni'n griw cymdeithasol iawn yn Corisma a ni'n cwrdd bob pythefnos i ganu, ond hefyd i chwerthin a rhoi'r byd yn ei le."

Ffynhonnell y llun, Delyth Morgans Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Mae Delyth Morgans Phillips yn dweud bod elfen gymdeithasol y canu yn bwysig

Ychwanegodd y Parchedig Wade McLennan o Eglwys Gymunedol New Hope yn Llanrhymni, Caerdydd, y byddai'r newid yn gwneud "gwahaniaeth mawr".

"Y ffordd dwi'n gweld pethau, mae canu'n rhywbeth orchmynnodd Duw, ac yn rhywbeth ddylai'r llywodraeth ddim fod wedi amharu arno," meddai.

"Mae'n ffordd bwysig o fynegi, ac mae cerddoriaeth a chanu wedi bod yn rhan o ddiwylliant a threftadaeth Cymru ers canrifoedd."

'Byddwch yn ofalus'

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod nifer o ddigwyddiadau yn ystod y pandemig ble roedd elfen llafar iddynt wedi cyfrannu at ymledu'r feirws.

Ond maen nhw bellach yn dweud bod modd "rheoli" y risg hwnnw, gan fod ymlediad o fewn y gymuned yn isel.

Oherwydd hyn, bydd nawr hawl canu, llafarganu a chwarae offerynnau tu mewn a thu allan gyda'r canllawiau priodol mewn lle.

"Fodd bynnag, mae'n rhaid pwysleisio y dylai pobl barhau i fod yn ofalus tu hwnt, yn enwedig gyda grwpiau mawr dan do," meddai'r canllawiau.

Pynciau cysylltiedig