Dynes wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Sir y Fflint

  • Cyhoeddwyd
heddlu tu allan y ty
Disgrifiad o’r llun,

Roedd heddlu'n parhau i fod tu allan i'r tŷ fore Sul

Mae dynes wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Nhreffynnon, Sir y Fflint yn oriau man fore Sul.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 01:30 yn dilyn adroddiadau o dân mewn adeilad ar Moor Lane yn y dref.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod dynes yn ei 30au - yr unig berson oedd yn byw yn y tŷ - wedi marw yn y fan a'r lle.

Mae ei theulu wedi cael gwybod, ac mae ymchwiliad yr heddlu a'r gwasanaeth tân yn parhau.

Pynciau cysylltiedig