Cyhoeddi manylion cynllun i 'roi cyfle i bawb dan 25 oed'

  • Cyhoeddwyd
PrentisiaethFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y llywodraeth y byddan nhw'n cydweithio gyda busnesau er mwyn sicrhau cyfleoedd i bobl ifanc

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion cynllun yn ddiweddarach maen nhw'n dweud fydd yn rhoi cyfle i bawb dan 25 oed gael gwaith, addysg, hyfforddiant, neu hunangyflogaeth.

Dywed Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y bydd ei warant newydd i bobl ifanc yn helpu sicrhau "nad oes cenhedlaeth goll yng Nghymru yn dilyn y pandemig Covid".

Galwodd Mr Gething ar fusnesau a sefydliadau'r sector cyhoeddus i "ystyried sut y gallant chwarae eu rhan wrth gefnogi'r Warant i Bobl Ifanc".

Bydd y gweinidog hefyd yn edrych ar ffyrdd o helpu entrepreneuriaid ifanc i greu eu busnesau eu hunain.

Bydd hyn, meddai, yn cynnwys gweithio gyda'r gymuned fusnes i edrych ar gyfleoedd cyflogadwyedd a chymorth i entrepreneuriaid ifanc.

"Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o sicrhau na fydd cenhedlaeth goll yng Nghymru o ganlyniad i'r pandemig," meddai Mr Gething.

"Mae angen i ni sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau a'r profiadau sydd eu hangen arnynt ar gyfer swyddi heddiw ac yn y dyfodol.

"Mae hon yn elfen allweddol o'n strategaeth i atal diweithdra ymysg pobl ifanc ac i sicrhau nad yw pobl ifanc yn cael eu dal yn ôl na'u gadael ar ôl."

Dywedodd Iestyn Davies, prif weithredwr Colegau Cymru ei bod yn bwysig fod y llywodraeth yn creu "llwybr llawer mwy cadarn" yn enwedig i'r bobl hynny sy'n "syrthio drwy'r rhwyd ar hyn o bryd".

Dywedodd fod swyddi pobl yn yr oedran yma yn fregus a'u bod yn aml yn "gyfnodau o brawf neu gytundebau byr".

"Mae'n bwysig felly ein bod yn creu cyfleodd," meddai, gan gynnwys y cyfle i gael hyfforddiant ac i gael profiad gwaith.

Pynciau cysylltiedig