Llafur yn addo gwaith neu addysg i bob person ifanc

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford y byddai'r addewidion yn "gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl"

Byddai llywodraeth Lafur wedi'r etholiad i Senedd Cymru fis Mai yn addo "lle mewn gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth" i bob person ifanc.

Dyna oedd neges arweinydd y blaid yng Nghymru'n wrth lansio ymgyrch etholiadol Llafur.

Yn ei araith dywedodd Mark Drakeford ei bod yn addo "sefyll gyda" pobl ifanc wrth iddyn nhw wynebu "yr argyfwng economaidd gwaethaf rydyn ni wedi'i weld erioed".

Ychwanegodd fod gan Lafur chwe phrif addewid ar gyfer yr etholiad:

  • Adferiad wedi Covid - gan gynnwys sefydlu ysgol feddygaeth yn y gogledd;

  • Gwarantu gwaith i'r ifanc;

  • Cyflog byw real i weithwyr gofal;

  • Dileu rhagor ar y defnydd o blastig untro a chreu coedwig genedlaethol;

  • Cymunedau mwy diogel: Mwy o blismyn cynorthwyol;

  • Creu miloedd o swyddi wrth godi tai carbon-isel.

'125,000 o brentisiaethau newydd'

Dywedodd Mr Drakeford y byddai llywodraeth Lafur yn talu am 100 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn ychwanegol at y 500 y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn eu hariannu.

Byddai Gwarant y Person Ifanc, meddai, yn sicrhau y bydd gan bob person o dan 25 oed le mewn gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth.

Mae'r cynllun yn cynnwys 125,000 o brentisiaethau newydd i roi "llwybrau o ansawdd uchel i swyddi gwell".

Dywed Llafur y byddai'r addewid yn cael ei chyflawni trwy "gymysgedd" o gyfleoedd cyhoeddus, preifat a thrydydd sector.

Ychwanegodd llefarydd y byddai'r cynllun yn golygu creu 15,000 o gyfleoedd ychwanegol ac y byddai'n costio £70m y flwyddyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynllun Llafur Cymru yn cynnwys creu 125,000 o brentisiaethau newydd

Dywedodd Mr Drakeford fod record ei blaid yn y flwyddyn "eithriadol" a fu yn "dweud ein bod yn llywodraeth gwbl gymwys, gyda'r hygrededd a'r penderfyniad i arwain Cymru ymlaen".

"Rydym am fod yn llywodraeth sy'n cwblhau'r gwaith yna," meddai.

Pan gafodd ei holi pam nad oedd ei lywodraeth eisoes wedi cyflwyno cyflog byw real i ofalwyr dywedodd Mr Drakeford: "Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i'r arian i greu cyflog byw real mewn sector, lle mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael eu cyflogi gan gwmnïau preifat yn hytrach na'r llywodraeth."

"Mae gwersi'r 12 mis diwethaf wedi dangos bod yn rhaid i ni gydnabod a rhoi gwerth a gwobrwyo'r bobl yna rydym wedi bod yn dibynnu arnynt."

Y cyflog byw real ar gyfer 2020-21 yw £9.50 yr awr.

Beth ydy hanes Llafur Cymru?

Mae Llafur wedi bod mewn grym yng Nghymru ers dechrau datganoli ym 1999, gan ffurfio clymblaid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn 2000 a Phlaid Cymru yn 2007.

Enillodd y blaid 29 o'r 60 sedd yn etholiad Senedd 2016 ac mae'n llywodraethu gyda chefnogaeth y Democrat Rhyddfrydol Kirsty Williams a'r aelod annibynnol yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

Mae Mr Drakeford wedi arwain Llafur Cymru ac wedi bod yn Brif Weinidog ers Rhagfyr 2018.

Collodd Llafur chwe sedd yng Nghymru i'r Ceidwadwyr yn etholiad cyffredinol diwethaf y DU yn 2019.

Disgwylir i etholiad y Senedd gael ei gynnal ar 6 Mai.