Atal cefnogwyr Cymru rhag teithio i Amsterdam
- Cyhoeddwyd
Fydd hi ddim yn bosib i gefnogwyr o Gymru deithio i Amsterdam ar gyfer y gêm yn erbyn Denmarc yn rownd nesaf Euro 2020 yn yr Iseldiroedd, medd y gweinidog iechyd.
Yn ystod cynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg, dywedodd Eluned Morgan bod yr heddlu yno wedi dweud na fyddent yn "caniatáu cefnogwyr o Gymru mewn i'r wlad".
Mae'r Iseldiroedd ar restr oren y DU sy'n golygu nad yw teithio yno yn cael ei argymell ac nid yw'r DU ar restr gwledydd diogel yr Iseldiroedd.
Fe gafodd y DU ei roi ar restr 'goch' Yr Iseldiroedd ar 15 Mehefin - llai nag wythnos yn ôl.
Mae Cymru wedi cyrraedd yr 16 olaf gan ddod yn ail yn grŵp A a Denmarc, ar ôl iddyn nhw guro Rwsia nos Lun, fydd eu gwrthwynebwyr yn Amsterdam ddydd Sadwrn.
Parthau cefnogwyr
Yn ystod y gynhadledd ddydd Llun dywedodd Eluned Morgan: "Ry'n wedi derbyn canllawiau gan yr heddlu yn Amsterdam sy'n dweud wrthym na fyddan nhw'n caniatáu unrhyw gefnogwyr i mewn i'r wlad.
"Ac felly mae hynny'n golygu y byddwn ni, wrth gwrs, yn eich hannog i aros yma a gwylio'r gêm yn ddiogel.
"Os yw awdurdodau lleol yn gofyn i ni sefydlu parthau ar gyfer cefnogwyr, yna fe fyddwn fel llywodraeth yn ystyried hynny ac yn cyhoeddi canllawiau ar sut y gallai hynny ddigwydd mewn ffordd ddiogel."
Ychwanegodd Eluned Morgan bod Llywodraeth Cymru yn "llawer mwy awyddus" i weld pobl yn gwylio'r gêm y tu allan na thu mewn.
"Os oes modd i hynny ddigwydd mewn lleoliad sy'n cael ei reoli - fe fyddai hynny yn well na bod pobl yn mynd i dai ei gilydd," meddai.
Cyn gemau cyntaf Cymru yn y rowndiau terfynol roedd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi annog cefnogwyr Cymru i beidio teithio i Azerbaijan na'r Eidal.
Roedd ymateb cadeirydd Ffederasiwn Cefnogwyr Pêl-droed Cymru, Vince Alm, yn ffyrnig:
Dywedodd: "Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru y bore 'ma na ddylai fod yn broblem i gefnogwyr Cymru deithio, ond mae'n ymddangos eu bod nhw heb ddarllen y rheolau yn yr Iseldiroedd. Ry'n ni wedi siarad gyda'r Swyddfa Gartref, ac wedi cael gwybod nad oes gobaith o gwbl i ni gael i mewn i Amsterdam.
"Mae'n gic yn y dannedd i'r cefnogwyr... ry'n ni'n hynod simoedig gyda'r ffordd yr y'n ni wedi cael ein trin, ac mae'n teimlo'n fater gwleidyddol iawn. Ry'n ni wedi cael ein gadael i lawr gan bawb - Llywodraeth Cymru, UEFA a'r gwledydd sy'n cynnal y gemau yn y gystadleuaeth.
"Mae yna wahaniaethu yn ein herbyn gan ein bod yn wlad fach. Pe byddai'n rhaid i Loegr fynd i Amsterdam, allwch chi fentro y byddai Boris Johnson yn cynnal trafodaethau gyda'r Iseldiroedd."
Fe wnaeth rhai cannoedd o gefnogwyr y tîm cenedlaethol deithio i Baku yn Azerbaijan ac i Rufain yn Yr Eidal er bod y gwledydd hynny ar y restr oren.
Ers hynny mae'r Eidal wedi cyflwyno cyfnod cwarantin i deithwyr o'r DU.
Mae Geraint Lovgreen yn hunan-ynysu ar ôl bod yn Baku ac yn credu fod angen ailystyried y gystadleuaeth yn sgil Covid.
"Does neb wedi meddwl am y cefnogwyr o gwbwl," meddai. "Mae'r peth jyst yn mynd ymlaen ar y teledu a neb yn poeni am y cefnogwyr a'r trefniadau sydd wedi cael eu gwneud.
"Ond fel welon ni yn erbyn Twrci ychydig bach o gefnogwyr oedd yna, ond mae'r 'chydig bach yna yn help yndydi, hyd yn oed yn wyneb 20,000 o gefnogwyr Twrci. Ond mae cael neb yna o gwbwl mae'n troi y peth yn gêm lle mae rhywun yn teimlo nad oes na gefnogaeth o gwbwl."
Petai Cymru yn ennill ddydd Sadwrn fe fyddant yn dychwelyd i Baku ar gyfer y gemau go-gynderfynol ar 3 Gorffennaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd18 Mai 2021