Toriad rhent 'sylweddol' ar gyfer gosod mastiau ffôn

  • Cyhoeddwyd
MastFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd ffermwyr a pherchnogion tir eraill yng Nghymru yn amharod i rentu tir ar gyfer mastiau ffôn i wella'r rhwydwaith symudol oherwydd deddfwriaeth llywodraeth y DU sydd wedi arwain at ostyngiad yn y rhent maen nhw'n ei dderbyn.

Dyna'r rhybudd gan AS Plaid Cymru, Liz Saville Roberts, sy'n galw ar y llywodraeth i sicrhau bod tirfeddianwyr yn cael rhent teg am helpu i wella cysylltedd.

Mae BBC Cymru wedi siarad ag un ffermwr a welodd ostyngiad dramatig yn y rhent a gynigiwyd iddo am gael mast telegyfathrebu ar ei dir.

Dywed Ed Bailey - ffermwr a syrfëwr siartredig o Lanbedr ger Harlech - ei fod wedi cytuno gyda chwmni mastiau ar rent o £5,500 y flwyddyn yn 2017. Ond ar ôl i gwmnïau telegyfathrebu gael mwy o bwerau yn dilyn adolygiad o ddeddfwriaeth allweddol, cafodd y cynnig ei ostwng yn sylweddol i £3.50 y flwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa'n 'siomedig', medd y ffermwr Ed Bailey

"Rwy'n credu na fyddai 'siomedig' yn ddisgrifiad digonol o'r teimladau," meddai Mr Bailey. "Ry'n ni'n teimlo fel tase'r cwmni wedi cymryd mantais, ac yn amlwg mae'n rhoi amheuon yn eich pen ynglŷn ag eisiau gweithio gyda chwmni eto.

"[Mae'r cwmnïau telegyfathrebu] wedi gwneud gwaith da yn lobïo'r llywodraeth. Roedd ganddyn nhw'r hawl i gymryd yr hyn roedden nhw ei angen, ac i gynnig math gwahanol iawn o daliad am y tir.

"Rwy'n credu ei fod wedi creu sefyllfa sydd mewn gwirionedd wedi arafu cysylltedd digidol, oherwydd wrth gwrs, cyn hynny [yr adolygiad o'r ddeddfwriaeth], roedd pobl yn dod ymlaen ac yn eisiau cytuno ar bethau, ac roedd hynny'n gymesur â'r farchnad ar yr adeg honno.

Ac felly dyw arafu'r broses ddim yn beth da i unrhyw un. Mae gan bob un ohonom yr un weledigaeth. Mae pawb eisiau gwell cysylltedd digidol. Dyna'n union yr oeddem ei eisiau yma."

Adolygu cod

Yn 2017 fe wnaeth Llywodraeth y DU adolygu'r Cod Cyfathrebu Electronig (ECC), y ddeddfwriaeth sy'n rheoli'r berthynas rhwng cwmnïau sy'n berchen ar fastiau a pherchnogion tir lle maen nhw wedi'u lleoli.

Bwriad y cod oedd cyflymu'r broses o gyflwyno mastiau newydd ledled y DU, ond dywed ymgyrchwyr fod adolygu'r cod wedi gwneud y gwrthwyneb.

Mae Ed Bailey - mewn partneriaeth â chwmni mastiau gwahanol - wedi codi mast ei hun ar ei dir, ac mae'n gobeithio y bydd darparwyr rhwydwaith symudol yn ei ddefnyddio.

Mae'r grŵp ymgyrchu Protect and Connect eisiau gweld newidiadau i'r ECC. Dywed y grŵp fod y toriadau rhent yn effeithio ar glybiau chwaraeon a chymdeithasau, elusennau, preswylwyr fflatiau ac eglwysi yn ogystal â ffermwyr.

Dywed y grŵp fod yr adolygiad o'r ECC wedi cyflwyno ffordd newydd o gyfrifo rhent, sy'n seiliedig ar isafbris ar gyfer y tir. Mewn ardaloedd gwledig mae hyn yn golygu prisiau tir amaethyddol, sydd ddim yn ystyried gwerth yr offer telegyfathrebu fydd wedi'i leoli ar y tir.

'Rhwystro gwell mynediad i dechnoleg'

Dywedodd Cadeirydd Protect and Connect, Anna Turley: "Mae'r newidiadau hyn yn cael effaith sylweddol ar filoedd o bobl sydd wedi ymrwymo i gefnogi gwell cysylltedd yn y wlad trwy gael mastiau ffôn ar eu tir.

"O ffermwyr i glybiau rygbi, eglwysi i ysgolion, mae cwmnïau telegyfathrebu mawr yn torri'r taliadau rhent ledled y DU. Mae'r cydbwysedd pŵer wedi symud yn rhy bell ac mae llawer o bobl gyffredin wedi wynebu ymddygiad ymosodol gan y cwmnïau hyn, yn ogystal â cholli allan yn ariannol.

"Mae llawer nawr yn gofyn a yw'n werth rhoi lle i mast o gwbwl. Y pryder yw bod yr anghydbwysedd pŵer hwn trwy'r cod yn rhwystro gwell mynediad i dechnoleg digidol ar yr union adeg pan mae ei angen arnom fwyaf."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Dywedodd Ms Turley hefyd fod y cod diwygiedig wedi arwain at lawer mwy o wrandawiadau llys er mwyn ceisio datrys anghytuno ynghylch lefel y rhent.

"Cyn y newidiadau yn 2017 dim ond llond llaw o'r achosion hyn a aeth i'r llys," meddai. "Nawr mae cannoedd oherwydd bod pobl yn dweud 'dyw hyn ddim yn deg, allwch chi ddim cwtogi 95% oddi ar yr incwm yr oeddwn i yn ei dderbyn'.

"Yn anffodus mae'r newidiadau wedi golygu nad oes modd cymodi. Mae'r pŵer yn nwylo'r cwmnïau hyn yn llwyr, ac os nad yw pobl yn derbyn y gostyngiad enfawr mewn rhent, yna eu hunig lwybr yw'r llwybr trwy'r llysoedd, a phwy sy'n gallu fforddio herio'r cewri telegyfathrebu hyn â'u cyllidebau cyfreithiol mawr?"

'Ymdeimlad o annhegwch'

Mae Liz Saville Roberts, AS Dwyfor Meirionydd, yn rhybuddio y bydd Llywodraeth y DU yn ei chael hi'n anodd cyrraedd targedau ar gyfer gwella'r rhwydwaith oni bai bod rhywbeth yn newid.

"Yn gyntaf, wrth gwrs mae yna ymdeimlad o annhegwch," meddai. "Mae'r rhain yn gwmnïau enfawr, proffidiol iawn, y cwmnïau ffôn symudol neu'r cwmnïau mastiau, ac maen nhw'n rhoi eu hunain mewn sefyllfa o bŵer dros y landlordiaid.

"Rydyn ni'n siarad am nid yn unig colli rhywfaint o'r rhent roedd y landlordiaid wedi arfer ei dderbyn, rydyn ni'n sôn am golli hyd at 95% a mwy o'r rhent roedden nhw'n ei dderbyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ardaloedd gwledig yn dibynnu ar wella cysylltedd, medd yr AS Liz Saville Roberts

"Ond y gwir fater yma, wrth gwrs, yw mewn ardal wledig fel Dwyfor Meirionydd, mae hyn wir yn codi pryderon a ydym yn mynd i allu parhau i gyflwyno'r gwelliannau mewn cysylltedd symudol y mae arnom ei angen gymaint."

Ychwanegodd Ms Saville Roberts: "Mae gwir angen gwell cysylltedd yng nghefn gwlad Cymru - ac nid yr opsiwn o'i ddefnyddio yn unig yw hwn.

"Mae llawer o wasanaethau cyhoeddus bellach yn dibynnu ar gysylltedd, ac os nad oes gennym ni hynny yn ein hardaloedd gwledig, fe fyddwn ni ar ein colled yn fawr.

"Felly 'dw i'n galw ar y llywodraeth i wir ailfeddwl am ganlyniadau anfwriadol y newidiadau i'r cod, a sicrhau bod popeth yn ei le i barhau i gyflwyno gwelliannau i'r rhwydwaith mor fuan â phosib."

Ymgynghori

Mae'r Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) wedi bod yn ymgynghori ar effaith yr ECC diwygiedig ac ar hyn o bryd yn ystyried newidiadau pellach.

Dywedodd llefarydd ar ran y DCMS: "Ein blaenoriaeth yw codi lefel y wlad trwy wella signalau symudol ac i wneud hynny'n gyflym mae angen i brisiau teg gael eu cytuno ar gyfer yr hawl i gael mynediad i dir a gosod offer newydd.

"Rydym yn ymwybodol o'r pryderon sydd wedi codi ynglŷn â'r cod ac wedi cadarnhau y byddwn yn deddfu i annog trafodaethau tecach, cyflymach a mwy cydweithredol gyda gweithredwyr rhwydwaith."