Gweinidog Iechyd: Cymru'n 'wynebu sefyllfa ddifrifol' yn y pandemig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
covidFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Gweinidog Iechyd Cymru wedi rhybuddio bod y wlad "yn wynebu sefyllfa ddifrifol unwaith eto" ac "ar ddechrau trydedd don o'r pandemig".

Mewn datganiad i Aelodau Senedd Cymru dywedodd Eluned Morgan fod achosion coronafeirws ar gynnydd a bod amrywiolyn Delta "mewn ychydig wythnosau... wedi lledu o dri chlwstwr bach yng ngogledd a de ddwyrain Cymru i'n cymunedau ymhob rhan o Gymru".

Ychwanegodd bod y gyfradd achosion "wedi mwy na dyblu" dros y pythefnos diwethaf.

Yn ôl ystadegau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru mae'r gyfradd wedi codi i 31.3 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth, o'i gymharu gyda llai na 10 ddechrau mis Mehefin.

Dywedodd Ms Morgan bod achosion ar gynnydd ym mron pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru oherwydd yr amrywiolyn, sy'n lledu'n fwy cyflym.

Yn Sir Conwy, mae'r gyfradd yn agos at 100 achos i bob 100,000 o bobl, ac mae dros 50 yn siroedd Dinbych a'r Fflint.

Erbyn hyn, meddai'r gweinidog, mae wyth o bob achos coronafeirws newydd yn achos amrywiolyn Delta, ac mae yna amcangyfrif bod Rhif R Cymru rhwng 1 ac 1.4 - arwydd pellach bod yr haint ar gynnydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru 'unwaith eto ar bwynt tyngedfennol yn y pandemig', medd Eluned Morgan

Pwysleisiodd bod sefyllfa Cymru "dwy neu dair wythnos" ar ôl gwledydd eraill y DU, ond mae'r hyn sy'n digwydd dros y ffin "yn weledigaeth sobreiddiol o be' all ddod".

Yn Lloegr mae dros 70,000 o achosion amrywiolyn Delta wedi eu cadarnhau a rhyw 5,000 yn Yr Alban. Mae 73 o farwolaethau yn Lloegr wedi eu cysylltu â'r amrywiolyn.

Cadarnhaodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wythnos diwethaf na fyddai 'na lacio pellach ar reolau coronafeirws yng Nghymru am bedair wythnos arall gan fod achosion amrywiolyn Delta ar led.

'Canolbwyntio ar frechu'

Dywedodd Ms Morgan y bydd y cyfnod hwnnw'n gyfle "i ganolbwyntio ar gyflymu brechiadau i helpu atal mwy o bobl rhag cael eu taro'n ddifrifol wael wrth inni wynebu'r don newydd yma o heintiadau".

Mae ymchwil, meddai, yn awgrymu y gallai gohirio llacio cyfyngiadau nawr helpu torri uchafbwynt nifer y bobl sydd angen triniaeth ysbyty hyd at 50% "mewn cyfnod pan fo'r GIG yn brysur iawn" yn delio â holl ofynion gofal y wlad.

Dywedodd bod 88.7% o oedolion Cymru wedi cael un brechiad erbyn hyn a 60.2% wedi cael y cwrs llawn.

Erbyn canol Gorffennaf bydd 500,000 yn rhagor o frechlynnau ar gael, gyda ffocws ar roi ail frechiad i bawb yn y grwpiau blaenoriaeth 1-9 - pawb dros 50, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a grwpiau bregus eraill, gan gynnwys preswylwyr cartrefi gofal.

"Hefyd, yn ddibynnol ar gyflenwadau, byddwn yn dod ag apwyntiadau ymlaen ar gyfer pobl dros 40 fel nad oes angen iddyn nhw aros fwy nag wyth wythnos rhwng y dos cyntaf a'r ail," meddai.

Wrth gloi'r datganiad, pwysleisiodd "ein bod unwaith yn rhagor ar bwynt tyngedfennol yn y pandemig" ond bod y rhaglen frechu'n cynnig gobaith "o dorri'r cysylltiad rhwng haint a thriniaeth ysbyty... heb orfod cyflwyno mesurau clo llymach".

Tystysgrifau brechu 'o fewn dyddiau'

Yn gynharach fe ddywedodd y Prif Weinidog wrth y Senedd y bydd pobl Cymru'n gallu cael tystysgrifau electroneg yn cadarnhau eu statws brechu "yn yr ychydig ddyddiau nesaf".

Ond dywedodd Mark Drakeford na fydden nhw ar gael drwy ap ffôn, fel sy'n digwydd dan system 'pasportau brechiadau' Lloegr.

Yn hytrach bydd yn rhaid i bobl fynd ar wefan, ond ni fydd yna dudalen Gymraeg am rai misoedd, "er sawl cais i Lywodraeth y DU i barchu'r gyfraith yma yng Nghymru".

Ar hyn o bryd, mae pobl yng Nghymru'n gallu gofyn am dystysgrif gan eu bwrdd iechyd lleol i brofi sawl brechiad maen nhw wedi eu cael.