Heddlu yn ymchwilio i farwolaeth anesboniadwy yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
heddlu

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i farwolaeth menyw 28 oed yn Nhre Ioan, ger Caerfyrddin.

Dywed yr heddlu eu bod y trin y farwolaeth yn Heol Drindod ddydd Mercher fel un heb esboniad.

"Mae teulu'r fenyw wedi cael gwybod ac rydym yn meddwl amdanynt yn ystod yr amser anodd yma," meddai llefarydd.

Ychwanegodd nad oedd y corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol a bod Swyddfa'r Crwner wedi cael gwybod am y digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig