Clystyrau Covid a phobl ifanc yn achosi trydedd don Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae trydedd don coronafeirws Cymru yn cael ei achosi gan glystyrau o achosion, sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yn bennaf, yn ôl meddyg teulu.
Dywedodd Dr Dyfan Jones, sy'n gweithio yn Sir Ddinbych, bod y clystyrau yn effeithio ar yr ifanc "bron yn gyfan gwbl".
Yr amrywiolyn Delta, a ddaeth i'r amlwg yn India yn wreiddiol, sy'n parhau i fod y straen mwyaf cyffredin gyda chyfradd achosion wythnosol Cymru yn codi i 35.6 fesul 100,000 o bobl.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae bron i bob achos o'r haint yng ngogledd Cymru bellach yn achosion o'r amrywiolyn Delta.
Sir y Fflint sydd â'r gyfradd uchaf o achosion coronafeirws fesul 100,000 o'r boblogaeth gyda bron i 100 o achosion.
Mae gan Conwy a Sir Ddinbych hefyd gyfraddau achosion uwch hefyd o'i gymharu â rhannau eraill o'r wlad, gyda 88.7 a 72.1.
'Cynnydd dramatig'
Dywedodd Dr Jones: "Ar ôl cyfnod tawel iawn dros yr ychydig fisoedd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd eithaf dramatig mewn achosion lleol.
"Mae'n ddiddorol i nodi bod hynny bron yn gyfan gwbl ymhlith plant a phobl ifanc," meddai.
"Felly mae'n ymddangos, diolch byth, bod y brechlyn - ac yn enwedig y brechlyn deuol - yn atal lledaenu ar raddfa fawr ymhlith y boblogaeth hŷn."
Ond ychwanegodd nodyn o rybudd bod angen i bobl fod yn ofalus o hyd a chadw at y rheolau.
"Rwy'n credu bod y dystiolaeth o ymlediad cyflym ymysg pobl ifanc yn sail i'r cyngor i gadw at y rhagofalon a'r canllawiau i geisio lleihau'r lledaeniad hwnnw wrth i ni geisio gorffen y rhaglen frechu sydd - hyd yma - wedi bod yn llwyddiant mawr diolch byth."
Mae awdurdodau lleol mewn sawl rhan o Gymru wedi rhybuddio preswylwyr i ddilyn canllawiau coronafeirws yn dilyn clystyrau o achosion.
'Pawb wedi laru'
Wrth siarad â BBC Cymru am y clwstwr presennol o achosion yn Rhosneigr ym Môn, dywedodd Llinos Medi, arweinydd Cyngor Ynys Môn, eu bod wedi gweld cynnydd sylweddol dros yr wythnos ddiwethaf.
"Mae'n bwysig fy mod yn nodi bod manylion Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos 15 achos newydd, ond mae ein tîm Profi Olrhain Diogelu lleol wedi gweld 31 o achosion yn dod i mewn yn ystod y saith diwrnod diwethaf," meddai.
"A dim ond 28 achos a gawson ni trwy gydol mis Mai, felly mae'r sefyllfa yn newid yma."
Ychwanegodd ei bod yn bryderus bod "pawb wedi laru" ar y sefyllfa ond pwysleisiodd na allwn fynd yn ôl i fyw o dan cyfyngiadau'r cyfnod clo.
"Dydi'r feirws heb fynd o 'ma. Mae peryglon y feirws yr un fath rŵan ag oedd o ddeunaw mis yn ôl.
"Felly maen rhaid i ni addasu ein bywyd i fyw yn ddiogel - i ymgysylltu, ond i 'neud hynny mewn ffordd cyfrifol."
'Dim cynnydd yn y niferoedd mewn ysbytai'
Yn siarad ar Radio Wales Breakfast ddydd Gwener, dywedodd Dr Giri Shankar, o Iechyd Cyhoeddus Cymru, fod angen cadw llygad agos ar y cynnydd mewn achosion o Covid-19.
"Rydyn ni'n pryderu am y cynnydd mawr o achosion dros yr wythnosau diwethaf, yn enwedig yn ardaloedd pedwar awdurdod lleol gogledd Cymru sydd â'r cyfraddau uchaf nawr," meddai.
Ychwanegodd: "Ar draws Cymru i gyd hefyd, rydyn wedi gweld cynnydd mawr.
"Rydyn ni'n profi llawer o bobl ac mae'r nifer o brofion positif hefyd wedi cynyddu'n sylweddol.
"Mae'r nifer o achosion yn dyblu bob saith i ddeg diwrnod fwy neu lai wrth edrych ar y cyfraddau cyfredol o gynnydd ac mae'r raddfa R o gwmpas 1.5 ar hyn o bryd. Felly rydyn ni'n poeni am y cynnydd sylweddol."
Ond dywedodd Dr Shankar nad oes effaith eto ar y niferoedd sydd mewn ysbytai ar hyn o bryd.
"Ymhlith yr oedrannau iau rydyn ni wedi gweld y rhan fwyaf o achosion newydd a beth rydyn ni'n gwylio'n agos yw a ydy'r lefel yma o weithgarwch o fewn y gymuned yn cael unrhyw effaith ar y niferoedd o bobl sydd mewn ysbytai.
"Ar hyn o bryd does dim arwydd sy'n awgrymu bod y niferoedd mewn ysbytai hefyd yn mynd lan ond mae hynny'n rhywbeth rydyn ni'n cadw llygad agos arno."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021