Gêm brawf baratoadol i'r Llewod ar dir cartref

  • Cyhoeddwyd
llewod yn ymarferFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Llewod wedi bod yn ymarfer ar ynys Jersey

Daeth yr amser i dîm rygbi'r Llewod gwblhau eu paratoadau ar gyfer taith arall i hemisffer y de mewn blwyddyn lle mae'r paratoadau arferol wedi cael eu newid, fel pob dim arall.

Roedd y daith i Dde Affrica eleni yn y fantol, ond er ei bod nawr yn digwydd, mae'r gêm baratoi olaf ym Murrayfield, Caeredin a'r gwrthwynebwyr yw Japan.

Hon yw'r drydedd gêm i'r Llewod chwarae ar dir cartref yn eu hanes - yn dilyn gêm yn erbyn Yr Ariannin yng Nghaerdydd yn 2005 ac yn erbyn 15 Gweddill y Byd yn 1986.

Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr y Llewod, yn gweld y gêm fel cyfle pwysig iawn ar gyfer paratoadau'r gyfres tri phrawf yn erbyn De Affrica yn hwyrach yn yr haf, yn enwedig gan fod dwy gêm yn llai i baratoi i gymharu gyda'r daith i Seland Newydd yn 2017.

Am y tro cyntaf mewn 71 o flynyddoedd ni fydd tîm cychwynnol y Llewod yn cynnwys chwaraewr o Loegr.

Mae Gatland yn ystyried y gêm yn erbyn Japan fel gêm brawf, er nad fydd y penderfyniad i wobrwyo'r chwaraewyr gyda chapiau prawf yn cael ei wneud tan yn hwyrach yn y flwyddyn.

Bydd 16,500 o gefnogwyr yn Murrayfield dydd Sadwrn, pan fydd y Llewod a Japan yn wynebu ei gilydd am y tro cyntaf.

Y gwrthwynebwyr

Mae carfan Japan yn cynnwys cyfuniad o brofiad ac ieuenctid gyda 13 chwaraewr heb gynrychioli Japan o'r blaen.

Michael Leitch yw'r capten, mae o yn un o'r 19 arall oedd wedi chwarae eu rhan yn ei ymgyrch Cwpan y Byd yn 2019, ac mae 10 ohonyn nhw yn dechrau yn erbyn y Llewod.

Hon fydd y gêm gyntaf i Japan chwarae ers colli yn rownd chwarteri Cwpan y Byd yn 2019. Colli oedd eu hanes yn erbyn De Affrica 20 mis yn ôl, ond fydd hynny ddim yn eu poeni.

Mae'r rhan fwyaf o'u chwaraewyr yn chwarae rygbi cyson iawn yn Japan a hefyd yn Seland Newydd.

Bydd taith wyth gêm y Llewod i Dde Affrica yn dechrau ar 3 Gorffennaf yn Johannesburg - yn erbyn tîm sydd hefyd â'r enw y Llewod - a'r gyfres brawf yn dechrau tair wythnos yn ddiweddarach.

Bydd y gic gyntaf am 15:00 a dyma dîm cychwynnol y Llewod i herio Japan:

Blaenwyr: 1 R Sutherland; 2 K Owens; 3 T Furlong; 4 I Henderson; 5 AW Jones (capten); 6 T Beirne; 7 J Tipuric; 8 J Conan

Olwyr: 9 C Murray; 10 D Biggar; 11 D van der Merwe; 12 B Aki; 13 R Henshaw; 14 J Adams; 15 L Williams

Pynciau cysylltiedig