Cofio Wyn Jones: 'Bachan diymhongar gyda meddwl cerddorol unigryw'

  • Cyhoeddwyd
Wyn Jones

Bu farw'r cerddor, cynhyrchydd a chyfarwyddwr cerdd, Wyn Jones o Aberteifi, ar 24ain Mehefin 2021.

Roedd Wyn yn aelod o'r band Ail Symudiad ac hefyd yn gyd-syflaenydd label recordiau annibynnol Fflach gyda'i frawd Richard.

Mewn darn ar gyfer Cymru Fyw, mae ei gyfaill a chynghorydd ar gyngor Sir Benfro, Cris Tomos o Grymych, yn talu teyrnged iddo.

Mae mor ofnadwy o drist i glywed fod Wyn Jones, Fflach wedi ein gadael.

Mae yn golled enfawr i ardal Aberteifi. Yr oedd Wyn a'i frawd Richard yn gymeriadau mawr ac wedi cyfrannu sut gymaint at y sîn roc Gymraeg - sefydlu stiwdio Fflach gan ddod â cherddoriaeth fywiog Ail Symudiad i ysgogi pobl ifanc ardal Aberteifi a Bro Preseli. Nifer o'r bobl ifanc hynny yn mentro ar lwyfan am y tro gyntaf ac yna ymlaen i ganu mewn bandiau.

Roedd Wyn yn gwirfoddoli yn gyson gyda gweithgareddau diwylliannol, cerddorol a chymunedol yr ardal. Gyda ni yng ngogledd Sir Benfro, yr oedd cael Wyn a Richard yn aelodau brwd o berfformiadau Theatr Gymunedol Bro'r Preseli yn sicr o greu'r proffesiynoldeb cerddorol i'r perfformiadau. Wyn yn cadw'r awyrgylch yn ysgafn a'r jôcs unigryw rhwng Richard a Wyn.

Disgrifiad o’r llun,

'Jôcs unigryw': Wyn gyda'i frawd Richard yn 2018

Hefyd gydag Aelwyd Crymych bu Wyn yn cefnogi'r bobl ifanc gyda chystadlaethau'r Urdd, Hanner Awr Adloniant a Nosweithiau Llawen. Wyn yna yn yr ymarferion ac yn sicrhau anogaeth i'r bobl ifanc a oedd yn cael y cyfleoedd cyntaf i godi hyder wrth ymddangos ar lwyfan ac ar y teledu. Mynd ar draws Gymru gydag Aelwyd Crymych i berfformio a falle mwynhau gormod wrth dorri syched ar ôl diddanu.

Disgrifiad o’r llun,

Y band yn eu gig cyntaf ym Mart Aberteifi ym Mai 1979

Nid oedd ymweliad â thref Aberteifi yn gyflawn heb ddala lan am sgwrs mewn caffi a chael dished gydag Wyn i roi'r byd yn ei le. Fe fu yn gynghorydd tref yn Aberteifi ac yn dilyn perfformiadau byw'r ardal.

Bachan tawel, hyd eich bod yn dod i'w adnabod, dyn diymhongar gyda meddwl cerddorol unigryw, y dalent yn fflachio. Braint cael adnabod ti Wyn. Bydd dy gerddoriaeth ac atgofion gyda ni am byth.

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau cysylltiedig