Covid: Grantiau i denantiaid sy'n methu talu rhent
- Cyhoeddwyd
Bydd tenantiaid sydd wedi methu talu rhent o ganlyniad i'r pandemig yn gallu gwneud cais am grant fel rhan o becyn gwerth £10m gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r Grant Caledi Tenantiaeth wedi'i gynllunio i gefnogi pobl sydd wedi cael trafferthion gyda'u taliadau rhent am fwy nag wyth wythnos.
Fe ddaw'r cyhoeddiad wrth i'r gwaharddiad ar droi pobl allan o'u tai gael ei godi.
Dywedodd y llywodraeth y byddai'r cynllun newydd yn "atal digartrefedd".
Nod y grantiau yw cefnogi tenantiaid sydd wedi mynd i drafferthion ers 1 Mawrth 2020 o ganlyniad i golli incwm oherwydd Covid.
Gallai hynny gynnwys tenantiaid sydd wedi bod ar ffyrlo, sydd wedi cael llai o waith neu sydd ond wedi gallu cael taliad salwch oherwydd Covid-19.
Ni fydd pobl sy'n derbyn budd-dal tai yn gymwys.
Bydd yr arian yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol o ganol Gorffennaf, ond fe all pobl gofrestru eu diddordeb nawr.
'Atal digartrefedd'
Y gweinidog yn Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y cynllun yw Julie James.
Dywedodd: "Rwy'n deall y straen y bydd pobl yn ei deimlo os ydyn nhw wedi methu taliadau rhent, ac unwaith mae hynny'n digwydd mae'n gallu bod yn anodd dal i fyny.
"Bydd y grant yma'n helpu atal digartrefedd. Rwy'n annog unrhyw un sy'n stryffaglu i dalu eu rhenti - hyd yn oed os mai megis dechrau mae eu trafferthion - i gysylltu gyda'u landlord neu gyda Chyngor Ar Bopeth neu Shelter Cymru er mwyn derbyn y cyngor a'r gefnogaeth gywir."
Yn y Senedd bnawn Mercher dywedodd AS Plaid Cymru Mabon ap Gwynfor fod y cynllun newydd "i'w groesawu ond mae peryg y bydd hwn yn gwbl annigonol i ateb y galw go iawn".
Bydd y grant yn disodli cynllun benthyciadau i denantiaid a gafodd ei gyflwyno yn Hydref y llynedd.
Mae ffigyrau gafwyd gan BBC Cymru mewn cais rhyddid gwybodaeth yn dangos mai dim ond 41 o'r rhai ymgeisiodd oedd yn gymwys am y benthyciadau yna yn saith mis cynta'r cynllun.
Wrth ymateb i gwestiwn amserol yn y Senedd bnawn Mercher dywedodd Ms James nad oedd y benthyciadau "wedi bod mor effeithiol ag y bydden ni wedi ei hoffi am amryw o resymau".
Bydd landlordiaid yn dal i orfod rhoi chwe mis o rybudd i denantiaid cyn eu troi allan o'u heiddo.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd4 Mai 2021
- Cyhoeddwyd24 Awst 2020
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2020