Arestio dyn wedi gwrthdrawiad ar yr A470 yn Nhrawsfynydd
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion wedi i ddynes o ardal Trawsfynydd gael ei hanafu wedi gwrthdrawiad ger yr Orsaf Bŵer nos Fawrth.
Cafodd y ddynes, sy'n ei 30au ei chludo, i Ysbyty Stoke gan Ambiwlans Awyr Cymru toc wedi 20:30 yn dilyn y gwrthdrawiad ar yr A470.
Fe gafodd y ddynes anafiadau difrifol ac mae dyn yn ei 30au wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed difrifol drwy yrru'n beryglus a gyrru o dan ddylanwad alcohol.
Dywedodd y Sarjant Raymond Williams o Uned Blismona'r Ffyrdd: "Rwy'n apelio ar unrhyw un a oedd yn teithio rhwng pentref Trawsfynydd a'r fynedfa i'r orsaf bŵer rhwng 20:25 a 20:35 nos Fawrth i gysylltu â ni.
"Rydyn ni'n benodol yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â lluniau dashcam o gar Audi A3 glas gyda'r rhif 08 cyn y gwrthdrawiad.
"Bu'r ffordd ar gau am oriau er mwyn cynnal ymchwiliad fforensig llawn ac rwy'n hynod ddiolchgar i ddefnyddwyr y ffordd am eu hamynedd o ganlyniad i'r digwyddiad."
Mae'r dyn a gafodd ei arestio yn parhau yn y ddalfa.