Cymru 68 Canada 12: Gwledd o rygbi i'r cefnogwyr

  • Cyhoeddwyd
StadiwmFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Y cefnogwyr yn dyst i wledd o rygbi wrth ddychwelyd i Stadiwm y Principality am y tro cyntaf mewn dros flwyddyn.

Ar ôl disgwyl misoedd i gael gweld tîm Cymru yn y cnawd roedd yna wledd o rygbi i dros 6,500 o gefnogwyr oedd yn bresennol yn stadiwm y Principality.

Ond dechreuodd y gêm yn y ffordd waethaf posibl pan fu'n rhaid i Leigh Halfpenny adael y maes ar ôl anafu ei benglîn yn y funud agoriadol. Roedd hynny yn siom fawr i'r cefnwr oedd yn ennill ei ganfed cap.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Diwedd disymwth i ganfed gêm Leigh Halfpenny dros ei wlad

Manteisiodd Canada ar y newid annisgwyl gyda Kaiona Lloyd yn croesi yn y gornel wedi i'r gêm ailddechrau,

Setlo

Ar ôl y pum munud cyntaf fe setlodd y tîm cartref. Cafodd amddiffyn yr ymwelwyr eu dal yn cysgu pan gymerodd Cymru gic gosb sydyn ac fe sgoriodd y mewnwr Tomos Williams. Cafodd y cais ei drosi gan Callum Sheedy.

Doedd hi ddim yn hir tan i Gymru sgorio eto. Yn dilyn symudiad cyflym fe garlamodd Jonathan Davies at y llinell cyn pasio flaen asgellwr y Gleision James Botham i sgorio ie gais cyntaf dros ei wlad.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

James Botham yn sgorio ei gais cyntaf i'w wlad

Dim amser i gymryd anadl

Parhau i ymosod wnaeth y crysau coch a'r asgellwr Jonah Holmes oedd y nesaf i agor ei gyfrif dros Gymru gyda chais gafodd ei drosi gan Sheedy. Ar ôl ugain munud roedd Cymru 19-5 ar y blaen.

Y prop Nicky Smith oedd y nesaf i groesi'r llinell ar ol i'r sgrym ennill tir yn agos at y pyst. Doedd dim amser i gymryd anadl rhwng yr ymosodiadau i gyfeiriad llinell Canada.

Dri munud yn ddiweddarach roedd Cymru 33-5 ar y blaen wedi i'r bachwr Elliott Dee wthio ei ffordd drwy domen o gyrff i sgorio.

Daeth chweched cais pan groesodd Will Rowlands dair munud cyn yr egwyl.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Will Rowlands yn ymuno yn y wledd o sgorio

Roedd yn rhaid disgwyl dros bum munud am gais yn yr ail hanner. Tomos Williams yn derbyn y bêl gan Sheedy cyn croesi o dan y pyst am ei ail gais.

Tro'r cap newydd Taine Basham oedd hi nesaf i sicrhau bod ei enw ar y sgôr fwrdd ar ôl croesi yn y gornel. Dim ond munudau yr oedd yr eilydd wedi bod ar y cae pan sgoriodd e eto ar ô i'r Cymry brofi'n rhy gryf i amddiffyn Canada. Cafodd y cais ei drosi gan wyneb newydd arall, Ben Thomas, ddaeth i'r maes fel eilydd yn lle Sheedy.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cap cyntaf cofiadwy i Taine Basham

Daeth cyfnod gorau Canada yn y gêm wedi hynny a cafodd eu dyfalbarhad ei wobrwyo gyda chais i Cooper Coats.

I goroni pnawn llwyddiannus i Gymru fe sgoriodd yr asgellwr John Holmes gais yn yr eiliadau olaf gafodd ei drosi gan Thomas i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus o 68 pwynt i 12.

Y blaenwr Ben Carter gafodd ei ddewis fel chwaraewr y gêm.

Cymru

Leigh Halfpenny; Jonah Holmes, Uilisi Halaholo, Jonathan Davies (C), Tom Rogers; Callum Sheedy, Tomos Williams; Nicky Smith, Elliot Dee, Dillon Lewis, Ben Carter, Will Rowlands, Ross Moriarty, James Botham, Aaron Wainwright.

Eilyddion: Ryan Elias, Gareth Thomas, Leon Brown, Josh Turnbull, Taine Basham, Kieran Hardy, Ben Thomas, Nick Tompkins.

Pynciau cysylltiedig