Beirniadu cynghorydd Wrecsam am weithio o Panama
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd Ceidwadol ar Gyngor Sir Wrecsam wedi cael ei feirniadu am gyflawni ei ddyletswyddau 5,000 milltir i ffwrdd yn Panama yng nghanolbarth America.
Mae Andrew Atkinson, sy'n cynrychioli Gresffordd, yn arwain ar wasanaethau plant y cyngor ac yn ddiweddar wedi bod yn mynychu cyfarfodydd y cyngor o bell.
Dywed y cynghorydd ei fod ar hyn bryd yn "gweithio o'r wlad yn ystod ei wyliau" ac mai ei fwriad ydy symud i fyw yno gyda'i deulu yn barhaol.
Mae Panama yn un o'r gwledydd sydd ar restr goch Llywodraeth Cymru o ran ymweld yn ystod y pandemig, a'r cyngor yw teithio yno ar gyfer dibenion angenrheidiol yn unig.
Mesurau arbennig
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn craffu ar berfformiad adran gwasanaethau plant Cyngor Sir Wrecsam ar hyn o bryd wedi i ymchwiliad fynegi "cryn bryderon" fis Medi y llynedd.
Wrth ymateb i'r newyddion ar Twitter, dywedodd cyn-Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones o Blaid Cymru: "Roeddwn i'n arwain gofal cymdeithasol plant y cyngor o 2008 tan 2012 ac roeddwn i'n ystyried y swydd yn un llawn amser, a hynny pan nad oedd yn wynebu mesurau arbennig.
"Wrth i'r adran wynebu mesurau o'r fath, rhaid i Hugh Jones (arweinydd y grŵp Ceidwadol) benodi aelod newydd i arwain y gwaith a fydd yn gallu craffu'n iawn ar y gwasanaeth pwysig hwn."
Mewn neges ar gyfrif Facebook newyddion Gresffordd dywed Mr Atkinson na fydd yn sefyll yn yr etholiadau lleol y flwyddyn nesaf ond ei fod yn parhau ar gael i ateb e-byst yn ystod ei gyfnod oddi cartref.
Cadarnhaodd hefyd mai ei fwriad oedd symud i Panama yn barhaol y flwyddyn nesaf.
Mae rheolau presennol Llywodraeth Cymru yn nodi nad yw'n bosib cyrraedd Cymru o wlad sydd ar restr goch - mae'n rhaid gwneud hynny drwy Loegr neu'r Alban ac yna hunan-ynysu am 10 diwrnod mewn gwesty.
'Haeddu pob clod'
Dywedodd Jeremy Kent, cadeirydd Cymdeithas Ceidwadwyr Wrecsam, bod Mr Atkinson yn haeddu pob clod am "wneud gwaith y cyngor tra'n mwynhau amser gwyliau gyda'i deulu".
"Os yw'r sefyllfa yn dod yn fwy parhaol mae gen i bob ffydd y bydd Andrew yn adolygu'r sefyllfa," meddai.
Dywedodd arweinydd y grŵp Ceidwadol ar Gyngor Wrecsam, Hugh Jones, bod y Cynghorydd Atkinson ar wyliau ar hyn o bryd a'i fod yn cyflawni dyletswyddau yn ystod ei amser yno.
Ychwanegodd fod y Cynghorydd Atkinson wedi rhoi gwybod iddo ef ac arweinydd y cyngor ei fod ar wyliau.
Dywedodd y cyngor eu bod yn ymwybodol fod y cynghorydd yn mynychu cyfarfodydd o bell ond ei fod wedi dweud y bydd yn ymddiswyddo os na fydd yn gallu gwneud hynny yn y dyfodol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2020