'Mwy o ansicrwydd nag erioed' am sefyllfa Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Rob Orford ei bod nawr yn ras rhwng yr amrywiolyn Delta a'r brechlynnau

Mae 'na fwy o ansicrwydd nawr nag ar unrhyw bwynt ers dechrau'r pandemig, yn ôl prif wyddonydd iechyd Llywodraeth Cymru.

Mae Dr Rob Orford yn disgrifio'r sefyllfa bresennol fel "ras" rhwng twf yr amrywiolyn Delta a'r brechlynnau, a bydd canlyniad hynny'n pennu pa mor gyflym gall cymdeithas "fyw gyda Covid".

Mae'n dadlau y gallai'r cynnydd mewn achosion coronafeirws arwain at bwysau sylweddol ar y Gwasanaeth Iechyd, ond y gallai hynny gael ei osgoi os yw brechu'n llwyddo i dorri'r cysylltiad rhwng heintio a salwch difrifol.

Wrth i'r cynllun brechu fynd rhagddo mae Dr Orford yn annog pobl ifanc i fanteisio ar y cyfle i gael brechiad, nid yn unig i'w hamddiffyn eu hunain ond amddiffyn eraill.

Y mwya' o bobl sydd ddim wedi'u brechu - y mwya' yw'r risg o weld clystyrau o achosion, meddai.

Serch hynny mae'n mynnu gallai ymddygiad pobl wneud gwahaniaeth wrth ystyried pa mor gyflym y gellir llacio'r cyfyngiadau, gyda'r rhagolygon ar gyfer sut beth fydd bywyd yn ddiweddarach eleni "yn ein dwylo ni oll".

'Cymryd mesurau synhwyrol'

"Ry'n ni mewn cyfnod hynod ddiddorol, mae 'na lawer o ansicrwydd - efallai mwy o ansicrwydd nag ar unrhyw gyfnod arall yn ystod y pandemig," meddai.

"Mae'n ras rhwng y nifer o frechlynnau allwn ni roi ym mreichiau pobl a thwf yr amrywiolyn yn y gymuned - ond mae gan bobl lawer o reolaeth.

"Dy'n ni ddim yn gwybod pa mor gyflym all amrywiolyn Delta redeg, ond gall y cyhoedd arafu'r amrywiolyn drwy gymryd mesurau synhwyrol - cadw ffenestri ar agor, golchi dwylo, peidio mynd mas os yn teimlo'n wael.

"Mi allwn ni rwystro Delta rhag rhedeg i ffwrdd gyda'r ras.

"Tra bod nifer penodol o bobl all fynd trwy ddrysau canolfannau brechu - gall y feirws gymryd mantais ar bawb mae'n dod i gysylltiad ag e, ac oni bai eich bod chi wedi cael eich brechu mae 'na risg y gallwch chi gael eich heintio ac yna fynd 'mlaen i heintio eraill, a gallai'r niferoedd gynyddu'n gyflym."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Rob Orford ei bod yn parhau'n ansicr pryd y bydd modd llacio'r holl gyfyngiadau

Am y rheswm yna mae Dr Orford yn annog pobl ifanc i fanteisio ar y cynnig o frechlynnau, er bod y risg o salwch difrifol yn llawer llai ymhlith y to ifanc.

"Os nad ydych chi'n ddifrifol wael eich hun, mi allwch chi dal ei basio 'mlaen i rywun sy'n fwy tebygol o fod yn sâl," meddai.

"Dyw brechlynnau nid yn unig yn eich amddiffyn chi, ond maen nhw'n amddiffyn eraill o'ch amgylch."

'Rhaid i'r mesurau barhau'

Wrth edrych i'r dyfodol mae Dr Orford yn dweud ei fod yn obeithiol y bydd y "storm yn pasio", ond gan ei bod hi'n debygol na ellid cael gwared â Covid yn llwyr, fe fydd yn rhaid i gymdeithas fyw â'r feirws.

Ond mae pa mor gyflym all hynny ddigwydd yn parhau'n hynod ansicr, meddai.

"Mae 'na ansicrwydd enfawr a rhwystredigaeth sylweddol, ond mae'r ffordd mae Cymru a phobl Cymru wedi ymateb i Covid-19 wedi bod yn eitha' anhygoel," meddai Dr Orford.

"Ond fe fydd yn rhaid i ni barhau i gael mesurau mewn lle i'n hamddiffyn - megis peidio mynd i'r gwaith os chi'n sâl, golchi dwylo ac yn y blaen.

"Gyda'r amrywiolyn Delta newydd a phan fod 'na nifer sylweddol o bobl sydd ddim wedi cael brechlyn, neu un dos o'r brechlyn, mae 'na dal bobl sy'n agored i salwch.

"Os yw'r feirws yn lledu'n gyflym gallai roi pwysau sylweddol nôl ar y Gwasanaeth Iechyd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Orford yn annog pobl ifanc i fanteisio ar y cynnig o frechlynnau er bod y risg o salwch difrifol yn is ymhlith y to ifanc

Er nad oes amserlen ar hyn o bryd am pryd fydd y cyfyngiadau yn cael eu llacio, mae Dr Orford yn obeithiol am effaith y brechlynnau.

"Mae wythnos yn amser hir yn y byd gwyddonol felly mae'n anodd rhagweld y chwe mis nesa', ond rwy'n gobeithio mewn fersiwn positif o realiti bydd y brechlynnau yn profi'n hynod effeithiol.

"Dwi'n teimlo y gwelwn ni gynnydd mewn achosion, sy'n debygol o arwain at gynnydd yn nifer y rhai fydd yn rhaid derbyn gofal yn yr ysbyty, ond gobeithio na welwn ni gymaint o bobl hŷn, fregus yn cyrraedd yr ysbyty gan eu bod nhw wedi derbyn dau ddos o'r brechlyn.

"Mae'r cyfan yn nwylo'r cyhoedd, sut mae pobl yn cymysgu, beth maen nhw'n ei wneud pan maen nhw'n teimlo'n wael er mwyn pennu sut fydd achosion yn cynyddu, ond dwi yn gobeithio bydd taith y brechlyn yn ein galluogi i gael canlyniad positif."