Chwarter marwolaethau Covid Cymru wedi deillio o ysbytai
- Cyhoeddwyd
Cafodd chwarter y rhai sydd wedi marw o Covid-19 yng Nghymru eu heintio yn yr ysbyty, yn ôl ymchwiliad gan raglen Newyddion S4C.
Fe gafodd cais dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth ei wneud i bob un o fyrddau iechyd Cymru.
Roedd 1,860 o'r rhai fu farw gyda Covid-19 ar eu tystysgrif marwolaeth rhwng dechrau'r pandemig a 1 Mai eleni "yn sicr" neu'n "debygol" o fod wedi eu heintio yn yr ysbyty.
Mae hynny yn cyfateb i 24.4% o farwolaethau Covid Cymru yn y cyfnod hwnnw.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y gwasanaeth iechyd wedi "gweithio yn eithriadol o galed trwy gydol y pandemig i wneud popeth y gallai i gadw'r feirws o ysbytai".
Ond mae'r gwrthbleidiau'n dweud bod hyn yn achos pellach ar gyfer cael ymchwiliad sy'n canolbwyntio ar ymateb Cymru i'r pandemig, yn hytrach nag un drwy'r DU gyfan.
'Sicr' neu 'debygol'
Mewn dau fwrdd iechyd - Hywel Dda a Bae Abertawe - mae'r ffigyrau yn dangos bod un o bob tri o farwolaethau Covid yn gysylltiedig â heintio mewn ysbytai.
Yn ôl y byrddau iechyd, os ydy claf yn profi'n bositif am Covid dros 14 diwrnod ar ôl dechrau triniaeth yn yr ysbyty, yna mae'n "sicr" o fod wedi eu heintio yno.
Mae "tebygol" yn cyfeirio at achosion o heintio pan gaiff achos positif ei gadarnhau rhwng saith ac 14 diwrnod ers i glaf ddechrau triniaeth yn yr ysbyty.
Ni chafodd ffigyrau ar gyfer Bwrdd Iechyd Powys eu cynnwys am nad oes ysbyty cyffredinol o fewn yr ardal.
Yno, mae mwyafrif y cleifion syd'n ddifrifol wael yn derbyn eu triniaeth dros y ffin yn Lloegr.
Yn y Rhondda, mae Carlee Keirle yn galaru am ei thad-cu, Dennis. Wedi iddo wella ar ôl canser, bu'n diodde' poenau yn ei stumog.
Cafodd driniaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac mae ei deulu yn credu iddo gael ei heintio â Covid-19 yno.
Bu farw ym mis Ebrill y llynedd.
"Dydw i ddim yn deall sut y gall ysbytai ganiatáu i hyn ddigwydd," meddai Ms Keirle.
"Byddwn yn hoffi gweld ymchwiliad Cymru-gyfan. Byddai'n cynnig tawelwch meddwl i deuluoedd."
Bu farw Evan Williams o Dalysarn, Gwynedd gyda Covid ym mis Ebrill y llynedd.
Pan gafodd ei gludo i'r ysbyty gyda niwmonia difrifol, cafodd ddau brawf negyddol am Covid-19.
Ers ei farwolaeth mae ei wraig, y cyn-Aelod Seneddol Llafur, Betty Williams wedi darganfod ei fod wedi profi'n bositif am y feirws cyn y bu farw.
'Fedra i brofi dim'
"Petai'r ddau ganlyniad yn negatif go iawn, mae o wedi bod yno ers pythefnos cyn marw gyda phrawf positif - daeth y canlyniad i'r amlwg oriau cyn iddo farw," meddai Mrs Williams.
"Fedra i brofi dim - mae hynny'n anodd. Mae'n edrych yn debygol i mi [iddo gael i heintio yn yr ysbyty] ond mi wna i adael hynny i ddychymyg pawb arall."
Mae Mrs Williams yn dweud ei bod hi wedi ysgrifennu at brif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i gwyno am driniaeth ei gŵr.
Mae hi'n honni i'w chais i drafod ei gyflwr gyda meddygon gael ei wrthod, a bod gorchymyn i beidio ei adfywio - "do not resuscitate" - ei roi ar ei gŵr yn ddiarwybod iddi.
Mewn datganiad, dywedodd Jo Whitehead, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod "yn estyn eu cydymdeimlad dwysaf i Mrs Williams a'i theulu am eu colled ym mis Ebrill y llynedd.
"Rydym wedi ymchwilio i'r pryderon sydd wedi eu codi gan Mrs Williams ac wedi ymateb i'r rheiny ym mis Mehefin a Hydref y llynedd. Mae cyfarwyddwr meddygol yr ysbyty wedi cynnig ei chwrdd er mwyn eu trafod.
"Mae'r pryderon pellach sydd gan Mrs Williams am y gofal gafodd ei gŵr yn cael eu hymchwilio ymhellach gan uwch-staff clinigol.
"Rydym yn ymddiheuro ynglŷn â hyd yr ymchwiliad trylwyr yma... Rydym yn anelu i gwblhau'r arolwg ac ymateb i Mrs Williams cyn gynted â phosib."
Mae Dr Eilir Hughes yn un o sylfaenwyr yr ymgyrch Awyr Iach, sy'n galw am well awyru ac offer PPE i ymdrin â Covid-19.
Yn feddyg teulu, mae Dr Hughes yn derbyn nad ydy'r ffigyrau'n syndod.
"Tydi hi ddim yn syndod bod nifer uchel o'r rheiny sydd wedi dal y feirws yn yr ysbyty wedi marw o ganlyniad gan eu bod nhw yn cynrychioli rhai o'r bobl fwyaf bregus yn y gymdeithas," meddai.
"Rydyn ni'n gwybod bod y feirws yn fwy peryglus iddyn nhw.
"Ond mae angen i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu mesurau i atal Covid-19 rhag lledaenu yn yr aer.
"Pethau fel awyru, defnyddio golau UV-C i lanhau'r aer a gofyn i gleifion wisgo masg os fedran nhw ddiodde' gwneud hynny.
"Fe gafodd cyfnodau clo eu gosod er mwyn amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd. Mae'n amser i'r NHS roi camau yn eu lle i leihau lledaeniad y feirws mewn ysbytai ac amddiffyn y cleifion yn eu gofal."
Mewn datganiad, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru: "Trwy gydol y pandemig, mae nifer fawr o bobl wedi marw ar ôl dal yr haint erchyll yma. Mae ein meddyliau yn dal i fod gyda'u teuluoedd a'u hanwyliaid.
"Mae coronafeirws yn feirws sydd â'r gallu i ledaenu yn gyflym, ac rydym yn gwybod y gall pobl ei basio ymlaen i eraill heb ddangos unrhyw symptomau o gwbl.
"Mae'r GIG yng Nghymru wedi gweithio yn eithriadol o galed trwy gydol y pandemig i wneud popeth y gallai i gadw'r feirws o ysbytai ac i amddiffyn pobl yn eu gofal, yn aml dan amgylchiadau anodd iawn.
"Mae mesurau caeth ynglŷn â rheoli a cheisio atal lledaeniad yr haint wedi eu dilyn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi canllawiau helaeth yn ymwneud ag ymbellhau cymdeithasol ac ymweld ag ysbytai.
"Mae profi wedi bod yn eang o fewn y Gwasanaeth Iechyd; roedd staff gyda'r cyntaf i dderbyn brechlyn ac mae cannoedd o filiynau o eitemau o PPE wedi eu defnyddio i amddiffyn staff a chleifion.
"Er yr holl fesurau yma, yn anffodus, mae heintio wedi digwydd mewn ysbytai. Yn drist iawn mae pobl wedi marw ar ôl dal coronafeirws mewn ysbytai. Mae pob achos yn cael eu hymchwilio yn drylwyr."
Y data'n llawn
Aneurin Bevan - Cyfanswm o 1,554 marwolaeth, 283 o'r rheiny wedi'u heintio yn yr ysbyty (18.2%)
Betsi Cadwaladr - 1,408 marwolaeth, 346 wedi'u heintio yn yr ysbyty (24.6%)*
Caerdydd a'r Fro - 1,207 marwolaeth, 270 wedi'u heintio yn yr ysbyty (22.4%)
Cwm Taf - 1,601 marwolaeth, 356 wedi'u heintio yn yr ysbyty (22.2%)
Hywel Dda - 739 marwolaeth, 254 wedi'u heintio yn yr ysbyty (34.4%)*
Bae Abertawe - 1,098 marwolaeth, 351 wedi'u heintio yn yr ysbyty (32%)
*Byrddau Hywel Dda a Betsi Cadwaladr wedi rhoi data ar gyfer marwolaethau o fewn 28 diwrnod i brawf positif. Pob un o'r byrddau iechyd eraill wedi cynnig data ar gyfer marwolaethau lle'r oedd Covid-19 wedi ei nodi ar dystysgrif marwolaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2020