Ysgolion uwchradd i gael oedi cyflwyno cwricwlwm newydd

  • Cyhoeddwyd
dosbarth

Bydd modd oedi cyflwyno cwricwlwm newydd mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru am flwyddyn yn ôl y gweinidog addysg, oherwydd heriau'r pandemig.

Ond dywedodd Jeremy Miles bydd disgwyl i ysgolion cynradd a meithrinfeydd gadw at yr amserlen o gyflwyno'r drefn newydd o fis Medi 2022.

Dyma yw un o'r newidiadau mwyaf i addysg yng Nghymru ers degawdau ac i'r ffordd y bydd plant tair i 16 oed yn cael eu dysgu.

Mae rhai undebau athrawon wedi galw am ohirio'r drefn oherwydd effaith Covid ar addysg.

Y bwriad oedd cyflwyno'r cwricwlwm ym mlwyddyn gyntaf yr ysgol uwchradd, ar yr un pryd â'r ysgol gynradd.

Ond nawr bydd modd oedi hyn ar gyfer blynyddoedd 7 ac 8 tan 2023.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jeremy Miles bod angen sicrhau "hyblygrwydd" i ysgolion

"Rwy'n cydnabod bod ysgolion uwchradd wedi wynebu heriau penodol fel rheoli cymwysterau, sydd, mewn rhai achosion, wedi effeithio ar eu parodrwydd ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm," meddai Mr Miles.

"Yn 2022, gall ysgolion sy'n barod i gyflwyno'r cwricwlwm i Flwyddyn 7 wneud hynny, ond ni fydd hyn yn orfodol tan 2023, gan ei gyflwyno i Flynyddoedd 7 ac 8 gyda'i gilydd."

Ond ychwanegodd ei fod yn awyddus i weld ysgolion yn dilyn yr amserlen wreiddiol os fyddai modd bwrw ati yn 2022.

Dywedodd hefyd y byddai cymorth ychwanegol i ysgolion er mwyn adeiladu ar y "momentwm" i weithredu'r cwricwlwm newydd, gan gynnwys 'Rhwydwaith Cenedlaethol' i gynnig cymorth a £7m ychwanegol.

Roedd y cwricwlwm, meddai, yn rhoi "cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i chwyldroi ansawdd y cyfle i'n plant a'n pobl ifanc".

Bydd ffiniau traddodiadol rhwng pynciau yn cael eu dileu a bydd chwe maes dysgu a phrofiad newydd yn lle hynny.

Fe fydd Cymraeg, Saesneg, Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn elfennau gorfodol a bydd rhaid i ysgolion gynnwys Rhifedd, Llythrennedd a Chymhwysedd Digidol ar draws y cwricwlwm.

Y bwriad yn ôl Llywodraeth Cymru yw paratoi plant ar gyfer y byd digidol a'r gweithle a hefyd rhoi mwy o bwyslais ar les dysgwyr.

'Rydyn ni'n barod'

Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Abercynon yn un o ddwsinau o ysgolion arloesi sydd wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu'r cwricwlwm i Gymru dros nifer o flynyddoedd.

Mae eu gwersi eisoes yn ceisio ymgorffori nodau'r cwricwlwm newydd, ac mae gan ddisgyblion gyfle i lywio'r dysgu.

"Rydyn ni'n caniatáu iddyn nhw ddylanwadu ar ddysgu," meddai'r athrawes Alyson Mackay.

"Rydyn ni'n datblygu'r sgiliau yr ydym ni fel athrawon yn gwybod bod angen eu datblygu, gan ganolbwyntio ar eu diddordebau."

Disgrifiad o’r llun,

Sharon Smith: 'Mae'n bwysig ein bod yn croesawu'r cyfle hwn'

Dywed y dirprwy bennaeth Sharon Smith bod yr ysgol yn barod ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm yn ffurfiol yn 2022.

"Rydyn ni'n teimlo ein bod mewn sefyllfa dda fel ysgol," meddai.

Roedd hi'n cydnabod y gallai ysgolion eraill fod eisiau mwy o amser ond dywedodd bod "llawer o gefnogaeth ar gael" iddyn nhw.

"Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn croesawu'r cyfle hwn i greu ein cwricwlwm ein hunain ar gyfer ein hysgolion ac mae'n bwysig gwneud pethau'n iawn."

'Cyfaddawd doeth'

Fe gafodd cyhoeddiad y gweinidog addysg ddydd Mawrth ei groesawu gan undeb addysg UCAC.

Dywedodd Dilwyn Roberts-Young, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb fod addasiad i'r amserlen yn "gyfaddawd doeth".

"Mae UCAC yn dueddol o gytuno bod mwy o barodrwydd yn gyffredinol yn y sector cynradd i fwrw ymlaen yn unol â'r amserlen wreiddiol, tra bod blwyddyn ychwanegol ar gyfer y sector uwchradd yn werthfawr dros ben.

"Mae'n gydnabyddiaeth o'r ffaith bod newid dulliau dysgu a strwythurau'n fwy o her i'r sector uwchradd, yn ogystal â'r ffaith bod ysgolion uwchradd wedi'u llethu i raddau helaeth iawn gan y trefniadau amgen ar gyfer cymwysterau eleni.

"Rydym yn rhoi croeso gofalus yn ogystal i'r gefnogaeth ychwanegol o ran cyllid, sefydlu'r Rhwydwaith Cenedlaethol, a'r addasiad i fframweithiau Estyn, er bod llawer o fanylion i'w cadarnhau eto.

"Yr unig siom sydd gennym yw bod cyflwyno'r cwricwlwm i Flynyddoedd 7 ac 8 ar yr un pryd yn 2023 yn colli'r cyfle i roi blwyddyn ychwanegol ar gyfer addasu cymwysterau i gyd-fynd â'r cwricwlwm newydd.

"Mae yna waith sylweddol iawn i'w wneud i sicrhau - yn unol â gweledigaeth y Gweinidog - bod ein cymwysterau yn cyd-fynd â'r uchelgais gyffrous tu ôl i'n cwricwlwm."

Pynciau cysylltiedig