Cynghrair y Pencampwyr: Cei Connah 2-2 Alashkert

  • Cyhoeddwyd
Cei ConnahFfynhonnell y llun, CBDC/John Smith
Disgrifiad o’r llun,

Cei Connah wnaeth ennill Uwch Gynghrair Cymru am yr ail dro yn olynol eleni

Mae gobeithion Cei Connah o gyrraedd ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr yn parhau wedi iddyn nhw gael gêm gyfartal gyda phencampwyr Armenia nos Fercher.

Aeth y Cymry ar y blaen wedi 19 munud, gyda Craig Curran yn rhwydo, cyn i'r ymwelwyr daro 'nôl bron yn syth gyda gôl gan David Khurtsidze.

Ychwanegodd Khurtsidze ei ail ar ddiwedd yr hanner cyntaf i roi Alashkert ar y blaen, cyn i'r capten George Horan ymateb i Gei Connah gyda 10 munud yn weddill.

Yn dilyn anaf i Danny Holmes ar ddechrau'r ail hanner cafodd 13 munud eu hychwanegu ar ddiwedd y 90, ond llwyddodd pencampwyr Cymru i gadw'r gwrthwynebwyr draw er mwyn sicrhau gêm gyfartal.

Bydd yr ail gymal yn cael ei gynnal yn Yerevan, Armenia ddydd Mercher nesaf.

Pynciau cysylltiedig