Beiciwr yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad ger Nant Gwynant

  • Cyhoeddwyd
A498Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A498 ger Nant Gwynant

Mae beiciwr modur mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ger Nant Gwynant brynhawn ddydd Mercher.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ychydig cyn 13:20 yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad ar yr A498 rhwng Pen y Gwryd a Beddgelert.

Cafodd y beiciwr, sydd yn ei 30au, ei gludo i Ysbyty Gwynedd i ddechrau cyn cael ei hedfan mewn ambiwlans awyr i Stoke gydag "anafiadau a allai beryglu ei fywyd".

Roedd y beiciwr modur yn teithio i gyfeiriad Beddgelert pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad, ac mae'r heddlu wedi apelio ar unrhyw un allai fod â lluniau dashcam i gysylltu â nhw.

"Rydyn ni'n gwybod fod sawl person wedi stopio yn safle'r digwyddiad, ond wedi gadael cyn i ni gyrraedd," meddai PC Daniel Edwards o'r Uned Plismona Ffyrdd.

"Rydw i'n annog y bobl hynny i gysylltu efo ni."

Pynciau cysylltiedig