Prinder staff yn atal genedigaethau cartref dros dro

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Menyw feichiogFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi atal genedigaethau yn y cartref dros dro oherwydd prinder staff.

Dywed y bwrdd, sy'n gwasanaethu siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, bod nifer o staff gyda Covid, yn hunan-ynysu neu adra'n sâl.

Dywedodd llefarydd bod y penderfyniad yn un "anodd iawn" a bydd yn cael ei adolygu mewn pythefnos.

Mae'r bwrdd yn gofyn i deuluoedd oedd yn bwriadu trefnu genedigaeth gartref gysylltu gyda'u bydwraig gymunedol i drafod yr opsiynau posib.

Dywedodd y bwrdd iechyd yn eu datganiad: "Rydym yn gwerthfawrogi y gall hyn beri siom, ond rydym yn eich sicrhau na wnaethpwyd y penderfyniad i ohirio'r gwasanaeth yma ar chwarae bach.

"Gofynnwn i chi gysylltu â ni gynted â phosib os oes unrhyw arwydd eich bod o bosib ar fin esgor, a fydd yn ein helpu i drefnu gofal ar eich cyfer."

Pynciau cysylltiedig