Cadw plant o'r ysgol er mwyn osgoi hunan-ynysu cyn gwyliau
- Cyhoeddwyd
Yng ngardd eu taid a'u nain yng Nghaernarfon, mae Seren, Deian ac Owain Iago yn cicio pêl.
A'r wythnos hon, mi fydd ganddyn nhw ddigon o amser i ymarfer eu sgiliau - achos ni fyddan nhw'n mynd i'r ysgol.
Mae eu rhieni wedi penderfynu eu cadw adref i osgoi'r risg o orfod hunan-ynysu cyn gwyliau teuluol yr wythnos nesaf.
Yn ôl Heddwen Williams, eu mam, mae'n "rhywbeth mae'n rhaid inni ei wneud".
'Lleihau'r risg'
"Wnaethon ni benderfynu cadw'r plant adra am gyfnod er mwyn lleihau'r risg," esboniai Mrs Williams, 37.
"'Dan ni'n gwybod bydd rhaid i fi fynd i'r gwaith, ac mae'r gŵr yn gweithio - fydd yn rhaid iddo fo fynd i'r gwaith.
"'Naethon ni just penderfynu - does dim rhaid inni yrru'r plant am yr wythnos olaf, yn fy marn i."
Mae Seren ym mlwyddyn saith, tra bod Deian ac Owain Iago yn yr ysgol gynradd - ym mlwyddyn tri a'r dosbarth derbyn.
Gyda'r tri yn dal yn ifanc, dydy Mrs Williams ddim yn poeni'n ormodol am effaith bosib eu habsenoldeb ar eu haddysg.
"I fod yn onest, dyma'r wythnos olaf cyn yr haf a dwi'n gwybod bod pethau'n dechrau tawelu, felly na, achos yr amseru, dwi ddim yn teimlo'n euog eu bod nhw'n methu unrhyw beth," meddai.
"Dwi'n meddwl ei bod hi wedi bod yn flwyddyn galed i bawb, ac mae'n rhywbeth mae'n rhaid inni ei wneud, gan fod y plant yn edrych ymlaen at wyliau teulu braf."
Achosion ar gynnydd
Yn ôl ffigyrau gafodd eu cyhoeddi yr wythnos ddiwethaf, roedd gan tua 20% o'r achosion newydd o Covid-19 yng Nghymru yr wythnos flaenorol gysylltiad ag ysgol. Roedd y nifer hwnnw - 549 - draean yn uwch na'r wythnos gynt.
Mae profion positif wedi gorfodi miloedd o ddisgyblion ysgol ar draws y wlad i hunan-ynysu.
Bythefnos yn ôl, roedd pob disgybl yn Ysgol Uwchradd y Rhyl, Sir Ddinbych, yn hunan-ynysu.
O ran absenoldebau sydd heb eu hawdurdodi, mae modd dirwyo rhieni am beidio mynd â'u plant i'r ysgol. Ond dydy Llywodraeth Cymru ddim yn cynghori hynny dan yr amgylchiadau presennol, ac eithrio mewn "nifer fechan o achosion" sydd ddim yn ymwneud â'r pandemig.
Gyda Mrs Williams a'i gŵr yn gweithio'r wythnos hon, bydd nain a thaid y plant yn mynd â nhw i ffwrdd am ychydig cyn y gwyliau teuluol yr wythnos nesaf.
"Dyma'r tro cyntaf i fi wneud rhywbeth fel hyn, ac yn dechnegol maen nhw'n mynd ar wyliau bach, a dwi'n meddwl eich bod chi'n cael eu tynnu nhw allan am gwpl o ddyddiau o wyliau," meddai.
Mae'n dweud bod rhieni eraill sydd yn yr un gwch hefyd yn cymryd camau'r wythnos hon i leihau'r risg o orfod hunan-ynysu.
"I fod yn onest, 'dan ni'n lwcus iawn i fod mewn sefyllfa lle 'dan ni'n gallu eu cadw nhw adra," meddai Mrs Williams.
"Mae fy rhieni yn gallu helpu, mae fy ngŵr yn gweithio shifftiau, felly mi fydd o efo nhw hefyd.
"Mae rhieni eraill hefyd yn trio lleihau'r risg drwy beidio'u rhoi nhw ar y bws ysgol, er enghraifft, jyst er mwyn lleihau [nifer] y swigod."
'Dylai plant fod yn yr ysgol'
Yn siarad ar BBC Radio Cymru, dywedodd y gweinidog addysg y dylai plant fod yn yr ysgol, gan mai dyna "ble mae plant yn cael yr addysg orau a'r gefnogaeth orau".
"Dyna pam y'n ni wedi newid y rheolau ar sut y'n ni yn ymateb i Covid, fel bod e'n adlewyrchu'r sefyllfa newydd ym mis Medi ac yn sicrhau bod plant yn treulio cymaint o amser ac sydd yn bosib yn yr ysgol", meddai Jeremy Miles.
"Mae plant wedi colli lot o ysgol yn y flwyddyn ddiwethaf.
"Rwy am sicrhau bod cyfle iddyn nhw fod yn yr ysgol yn cael cyfle i allu adeiladu ar yr hyn sydd angen ar ôl y flwyddyn ddiwethaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2021