Dim angen mygydau yn yr ystafell ddosbarth o fis Medi

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Willows CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Ni fydd angen i ddisgyblion ac athrawon ddefnyddio mygydau yn yr ystafell ddosbarth pan fydd y flwyddyn ysgol newydd yn dechrau fis Medi, medd Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Addysg hefyd na fydd yn rhaid i grwpiau cyswllt cyfan hunan-ynysu os oes achos positif o'r tymor nesaf.

Yn hytrach, bydd y cynllun Profi, Olrhain, Diogelu yn cael ei ddefnyddio er mwyn nodi cysylltiadau agos dysgwyr sydd wedi profi'n bositif.

Ond mae un undeb addysg wedi mynegi pryder am y newid yn y polisi wrth i achosion o'r amrywiolyn Delta barhau i godi.

Daw penderfyniad Llywodraeth Cymru yn dilyn cyhoeddiad fis diwethaf y byddai ysgolion a cholegau unigol yn cael dewis eu rheolau eu hunain - safbwynt a gafodd ei feirniadu gan undebau am fod yn "ddryslyd".

Bydd y system newydd yn dod i rym ar 1 Medi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y rheolau newydd yn weithredol mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion

Mae'r Gweinidog Addysg Jeremy Miles wedi ysgrifennu at benaethiaid heddiw yn rhoi canllawiau newydd wedi i nifer o bobl ifanc ddweud wrtho nad oedd y system bresennol yn gymesur.

Mae'r cyngor newydd yn dweud y dylid cadw pellter cymdeithasol ble fo hynny'n bosib, gan gynnwys rhwng aelodau staff.

Penderfyniad i ysgolion unigol ydy a fydd yn rhaid gwisgo mygydau ar drafnidiaeth i'r ysgol ac o fewn mannau cymunedol ar dir yr ysgol.

Bydd amserlen arferol ysgolion hefyd yn dychwelyd ar ôl gwyliau'r haf.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jeremy Miles fod plant yn "profi mwy o niwed o golli'r ysgol nag o Covid"

Dywedodd Mr Miles: "Erbyn diwedd mis Medi bydd pob oedolyn yng Nghymru wedi cael cynnig y ddau frechlyn, gan ddarparu mwy o ddiogelwch i'n gweithlu addysg.

"Mae corff cynyddol o dystiolaeth hefyd yn dangos bod plant a phobl ifanc yn profi mwy o niwed o golli'r ysgol nag o Covid.

"Mae llawer o'r bobl ifanc rydw i wedi siarad â nhw wedi dweud nad ydyn nhw'n credu bod y system bresennol yn gymesur.

"Maen nhw eisiau cael eu trin yr un peth â phawb arall - ac mae hynny'n swnio'n deg i mi."

'Digwydd yn rhy sydyn'

Mae undeb NAHT Cymru, sy'n cynrychioli penaethiaid, wedi mynegi pryder am y cyhoeddiad gan ofyn heb pam nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi mwy o bwyslais ar fesurau eraill fel awyru ystafelloedd.

"Does neb eisiau i ddisgyblion fod dan gyfyngiadau diangen am eiliad yn hirach nag sydd angen," meddai ysgrifennydd cenedlaethol NAHT, Rob Kelsall.

"Ond mae'n rhaid i ni fod yn ofalus a gwyliadwrus yn sgil yr amrywiolyn newydd, sy'n arbennig o gyffredin ymhlith plant rhwng 5-14 oed.

"Rydyn ni o'r farn y gallai newidiadau i'r cyfyngiadau presennol fod yn digwydd yn rhy sydyn, gan arwain at ganlyniadau anfwriadol ar adeg pan mae'r DU yn gweld cynnydd sylweddol yng nghyfradd yr achosion a'r nifer sydd yn yr ysbyty oherwydd Covid."

Disgrifiad o’r llun,

Mae cydbwyso'r risg a'r niwed o ganlyniad i'r feirws a'r effaith ar addysg yn fater cymhleth ers 16 mis, medd Sally Holland

Fe alwodd Comisiynydd Plant Cymru ddechrau'r mis am newid yr argymhelliad i wisgo mygydau yn y dosbarth ac i roi'r gorau ar ynysu torfol o'r ysgol.

Dywedodd Sally Holland ddydd Gwener: "Mi fydden ni'n disgwyl o ganlyniad i'r datganiad heddiw y bydd llai o amhariad i bawb y tymor nesaf.

"Mae'n ystyried barn a phrofiad plant a phobl ifanc ac yn cynnig gwybodaeth o'r hyn sydd i ddisgwyl mis Medi a sut y byddant yn cael eu cadw'n ddiogel."

Ychwanegodd bod plant a phobl ifanc "wedi colli dau dymor llawn o ddysgu wyneb-yn-wyneb a hyn cyn unrhyw gyfnod hunan-ynysu" er gwaethaf "ymdrechion arwrol" yr ysgolion i'w cefnogi a'u haddysgu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

'Her i benaethiaid ysgolion a cholegau'

Yn ôl undeb y prifathrawon, ASCL Cymru, mae'r canllawiau diweddaraf wedi eu cyhoeddi'n "hwyr eithriadol yn nhymor yr haf".

Rhybuddiodd cyfarwyddwr yr undeb, Eithne Hughes bod penaethiaid yn wynebu her sylweddol o ran "dehongli'r newidiadau a sicrhau'r addasiadau angenrheidiol i'w hamserlenni eu hunain o fewn cyfnod byr iawn".

Bydd yna groeso, meddai, i'r defnydd o'r cynllun Profi, Olrhain, Diogelu gan fod y trefniadau hunan-ynysu presennol "wedi cymryd gormod o lawer o amser penaethiaid".

Ond mae'n ofni bod "cryn dipyn o'r gwaith gorfodi'r canllawiau newydd wedi eu gadael i ddewis arweinwyr ysgolion a cholegau, yn enwedig mewn cysylltiad â gwisgo mygydau mewn mannau ac ar drafnidiaeth ysgol".

Ychwanegodd: "Rydym yn pryderu y gallai hyn arwain at wrthdaro rhwng athrawon a myfyrwyr."

Mae llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd wedi croesawu'r penderfyniad i gael gwared ar fygydau a swigod o fewn ysgolion, ac i ailddechrau'r amserlenni arferol.

Ond mae Laura Anne Jones "yn dal yn bryderus" na fydd Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi Fframwaith Penderfyniadau Rheoli Heintiau Covid-19 Lleol tan ddechrau tymor yr hydref.

"Mae ysgolion angen mwy o eglurder ynghylch lefel eu cyfrifoldeb mor fuan â phosib ac mae angen i weinidogion Llafur brysuro i roi'r manylion pwysig hynny," meddai.