Teithio: 'Dim bwriad' newid systemau profi Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
PrawfFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r profion yn costio £88 am un ar gyfer dychwelyd o leoliadau rhestr werdd, a £170 am ddau ar gyfer dychwelyd o leoliadau rhestr ambr

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud nad oes ganddo unrhyw fwriad i newid polisi sydd ar hyn o bryd yn golygu bod y rheiny sy'n dychwelyd i Gymru o wyliau tramor yn gorfod talu mwy am brofion na'r rheiny yn Lloegr.

Dywedodd Mark Drakeford wrth y Senedd mai cyngor Llywodraeth Cymru ydy i bobl osgoi teithio dramor oni bai fod angen.

"Dydw i ddim yn bwriadu gofyn i swyddogion ei gwneud yn haws i bobl wneud rhywbeth mae Llywodraeth Cymru yn amlwg yn credu na ddylid gwneud [mynd dramor]," meddai Mr Drakeford.

Mae rhai teithwyr o Gymru wedi dweud ei fod yn "annheg" bod yn rhaid iddyn nhw dalu mwy am brofion na theithwyr o Loegr.

Pam fod teithwyr Cymru'n talu mwy?

Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno i bobl ddefnyddio profion PCR y GIG, ble mae modd bwydo'r canlyniadau yn syth i system GIG Cymru.

Ond mae'r profion hyn yn costio £88 yr un, neu £170 am ddau, tra bod modd defnyddio darparwyr prawf gwahanol yn Lloegr, a thalu llai na £50 yr un.

Yn ogystal â'r gost uwch, mae dirwy o £1,000 i drigolion Cymru am ddefnyddio darparwr prawf preifat yn hytrach na'r un swyddogol.

Mae'r system Gymreig hefyd yn berthnasol i deithwyr sy'n hedfan i mewn ac allan o faes awyr mewn rhan arall o'r DU cyn dychwelyd i Gymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Os ydyn nhw'n dychwelyd i Gymru, mae'r system Gymreig hefyd yn berthnasol i deithwyr sy'n hedfan i faes awyr dros y ffin

Pan ofynnwyd i Mr Drakeford a fyddai'n galluogi i bobl gymryd y profion rhatach yng Nghymru, atebodd bod "rhesymau da" dros ddefnyddio system y gwasanaeth iechyd.

Dywedodd bod systemau'r GIG, os oes rhywun yn cael canlyniad positif ar ôl bod dramor, yn asesu a yw'n amrywiolyn newydd neu wahanol i'r arfer, a'i bod felly yn llawer haws cyfyngu ar y lledaeniad.

"Rwy'n credu bod rhesymau da pam ein bod yn ffafrio prawf trwy'r GIG, a does gennym ni ddim bwriad i newid y safbwynt hwnnw," meddai'r Prif Weinidog.