Alun Wyn Jones i ailymuno â thaith y Llewod yn Ne Affrica

  • Cyhoeddwyd
Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y clo oddi ar y cae o fewn saith munud i'r dechrau yn erbyn Japan ar 26 Mehefin

Bydd capten y Llewod, Alun Wyn Jones yn ailymuno â'r daith yn Ne Affrica wedi'r cyfan - 18 diwrnod yn unig ar ôl datgymalu ei ysgwydd.

Cafodd y Cymro ei anafu o fewn ychydig funudau i gêm gyntaf y Llewod yn erbyn Japan ym Murrayfield ar 26 Mehefin.

Ar y pryd, dywedodd prif hyfforddwr y Llewod, Warren Gatland na fyddai'r clo yn gallu teithio i Dde Affrica, a bod ei daith, i bob pwrpas, ar ben.

Ar ôl y gêm honno, dywedodd Gatland mai'r "senario gorau un" oedd y byddai Alun Wyn Jones yn ffit ar gyfer y Prawf cyntaf yn erbyn y Springboks ar 24 Gorffennaf.

Ond ar ôl bod yn ymarfer gyda charfan Cymru'r wythnos hon, bydd chwaraewr y Gweilch yn teithio i Dde Affrica ddydd Iau.

'Syfrdanol'

"Rydyn ni'n falch iawn o groesawu Alun Wyn yn ôl," meddai Warren Gatland.

"Ni fydd yn syndod i unrhyw un sy'n adnabod Alun Wyn, ers anafu ei ysgwydd yn erbyn Japan, ei fod wedi gwneud popeth o fewn ei allu i gael ei hun yn ôl [yn ffit].

"Mae'n syfrdanol mewn gwirionedd pan chi'n ystyried mai dim ond 18 diwrnod sydd wedi bod ers iddo ein gadael yng Nghaeredin."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Wyn wedi bod yn ymarfer gyda thîm Cymru yr wythnos hon

Ychwanegodd: "Mae wedi bod yn hyfforddi gyda charfan Cymru yn y Fro ers yr wythnos diwethaf... Yn dilyn asesiad gan y staff meddygol y bore yma rydym yn fodlon ei fod yn ffit i ddychwelyd.

"Mae'n amlwg ei fod yn barod i fynd ac o'r hyn rydw i wedi'i weld ar fideo a'r adborth rydyn ni wedi'i gael, yn sicr nid yw wedi bod yn dal ei hun yn ôl wrth hyfforddi. Roedd yn mynd amdani ddoe.

"Mae'n hwb enfawr i'r Llewod groesawu chwaraewr o statws Alun Wyn yn ôl."

Alun Wyn Jones sydd â'r nifer fwyaf o gapiau rhyngwladol yn hanes y gêm - gan gynnwys naw Prawf Llewod yn olynol rhwng 2009 a 2017.

Pynciau cysylltiedig