Ail gartrefi Cernyw yn creu sefyllfa o 'argyfwng'
- Cyhoeddwyd
Dyw gwyliau'r haf ddim wedi dechrau eto ond mae Porthia, neu St Ives, dan ei sang.
Gyda chynifer ohonom yn cael gwyliau ym Mhrydain eleni mae'r diwydiant ymwelwyr yng Nghernyw yn disgwyl blwyddyn dda.
Ond does dim llanw heb drai.
Fel mewn sawl ardal sy'n dibynnu ar dwristiaeth, mae 'na bris i'w dalu.
Mae Martha yn fyfyrwraig yn Rhydychen sy'n dychwelyd adre i weithio yma bob haf
"Mae'r siawns o allu prynu yma yn denau iawn. Mae rhentu'n ddrud iawn hefyd.
"Rwy'n gwybod yn y gaeaf bod perchnogion ail gartrefi yn cynnig rhentu i bobl leol ond maen nhw dal yn ddrud.
"Yn y gaeaf, chi'n cerdded o amgylch a does neb yn byw yn y tai hyn. Gallwch chi gerdded i fyny stryd gyfan a gweld neb.
"Fydd neb ynddyn nhw tan ha' nesa."
Mae ail gartrefi'n broblem yma ers degawdau ond mae 'na bryder fod y sefyllfa wedi gwaethygu o ganlyniad i Covid a gallu pobl i weithio o gartref.
Mae prisiau tai wedi cynyddu 15% yma ers yr hydref.
Yn wahanol i Gymru does gan y cyngor sir ddim hawl i godi premiwm treth cyngor ar ail gartrefi - cafodd cais diweddar i'r llywodraeth yn San Steffan am yr hawl i wneud hynny ei wrthod.
Ond ym Mhorthia ac mewn ambell dre' glan môr arall mae 'na ymgais i reoli nifer y tai haf.
Diolch i reolau cynllunio sydd ddim yn bodoli yng Nghymru, does dim hawl troi cartref newydd yn dŷ haf.
Nawr mae'n rhaid profi eich bod yn ei ddefnyddio drwy'r flwyddyn.
"Mae wedi atal datblygiadau mawr ac yn benodol datblygiadau eiddo gwerth miliwn o bunnoedd sy'n digwydd mewn ardaloedd eraill," meddai Jenefer Lowe, cyn-swyddog gyda'r cyngor sir.
"Dyw'r polisi yma ddim gyda nhw yn Hayle y dre' nesa, ac mae rhai datblygiadau enfawr yn digwydd yno."
"Mae twristiaeth yn cyfrif am 15% o'r economi. Dyw e ddim mor fawr ag y mae pobl yn ei feddwl," meddai Ms Lowe.
"Fydden i ddim am wneud hebddo wrth gwrs ond mae angen ei ganolbwyntio mewn gwestai a busnesau lleol.
"Mae gennym ni tua 10,000 llety AirBnb yma a dim ond 60 eiddo ar gael i bobl leol eu rhentu."
'Allwn ni ddim cario mlaen'
Ond atal diboblogi yw pwrpas y polisi ac mae 'na bryder fod y bwlch rhwng prisiau tai a chyflogau lleol yn parhau'n rhy fawr.
Methu wnaeth ymdrech gan gynghorwyr sir yr wythnos hon i ddatgan argyfwng tai yng Nghernyw.
"Allwn ni ddim cario mlaen fel hyn, allwn ni ddim parhau i brisio pobl allan," meddai Tamsin Widdon sy'n gynghorydd sir.
"Mae dros 1,000 o bobl yn aros am dŷ rhent yng Nghernyw a dwi'n cael galwadau ffôn byth a hefyd yn gofyn am help.
"Mae pobl yn cael eu symud o gwmpas y sir ac mae plant yn cael eu symud o ysgol i ysgol.
"Mae'n rhaid gwneud rhywbeth ar frys, mae'n argyfwng.
"Fe ddylen ni ddefnyddio polisïau treth blaengar i wneud perchnogaeth ail gartref yn llai deniadol a'i gwneud hi'n fwy deniadol i gynnig tŷ i'w rhentu a'i alluogi i ddod yn dŷ i berson lleol."
Mae tua chwarter yr eiddo ym Mhorthia a Bae Carbis yn ail gartrefi, ond dyw'r sector dwristiaeth ddim am weld gormod o reolau.
Mae Andrew Willets yn gweithio i gwmni sy'n gosod ail gartrefi, ac yn ceis'o prynu tŷ ei hun.
"Mae'r cyngor lleol yn gwneud ymdrech i helpu. Rwy'n credu bod y balans yn iawn.
"Os ydych chi'n byw yng Nghernyw mae'n rhaid i chi dderbyn mai twristiaeth yw ein prif ffynhonnell incwm."
'Prisiau wedi codi'n ddramatig'
Ond mae rhai yma'n ofni nad dim ond trefi glan mor fydd yn cael eu gadael yn wag yn y gaeaf.
Mae Ieuan Harries yn byw mewn pentref bach ger Camborne.
"Mae wedi gwaethygu o lawer yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae prisiau wedi codi'n ddramatig.
"Roedd byngalo mewn pentref cyfagos yn cael ei werthu am £250,000. Fe werthodd o fewn dwy awr am £320,000.
"Roedd y bobl oedd yn ceisio ei brynu yn gwthio'r pris i fyny ac mae hynny'n digwydd dro ar ôl tro.
"Maen nhw'n ceisio adeiladu tai fforddiadwy yma ond mae'r rheiny'n rhy ddrud i bobl leol."
Mae Cyngor Cernyw'n dweud fod darparu cartrefi newydd yn flaenoriaeth ac y byddan nhw'n gwario £200m ar adeiladu 1,700 o dai cymdeithasol a thai rhent.
Mae nhw hefyd wedi clustnodi tir ar draws y sir ar gyfer 450 o gartrefi newydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd29 Mai 2021