'Dim brysio' gyda chynllun argyfwng tai gwyliau

  • Cyhoeddwyd
Niwbwrch, Ynys MônFfynhonnell y llun, Epics
Disgrifiad o’r llun,

Gyda golygfeydd godidog - fel hyn oddi ar draeth Niwbwrch - mae'r galw am ail dai ar Ynys Môn ar gynnydd

Mae arweinydd cyngor mewn ardal lle mae prinder tai i bobl leol yn gobeithio na fydd y llywodraeth yn brysio i gyhoeddi cynigion i fynd i'r afael â'r broblem, heb ystyried y darlun cyflawn.

Dros y penwythnos dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ei fod yn gobeithio y bydd gan y cabinet gynllun cyn diwedd mis Mehefin, gyda rhai cynigion ymarferol.

Yn ôl arweinydd Cyngor Ynys Môn, Llinos Medi, mae'r ffaith bod hyn yn cael ei drafod a chydnabyddiaeth bod angen gweithredu ar frys yn "gam positif ymlaen".

Ond mae'n pwysleisio bod angen "gwneud yn siŵr nad ydyn ni'n symleiddio'r broblem [achos] mae 'na nifer o agweddau".

Ddydd Sul, dywedodd Mr Drakeford bod "cynnydd yn bendant yn cael ei wneud y tu mewn i Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn o gynigion" ac y byddan nhw'n mynd ati i siarad ag eraill amdanyn nhw er mwyn "mynd i'r afael â'r materion a amlygwyd eto yn ddiweddar".

"Mae yna lawer o weithgaredd yn digwydd yn y maes hwn", meddai'r Prif Weinidog ar raglen Sunday Politics, "yr hyn a ddywedais yn fy araith gyntaf yn y Senedd oedd, nad oes gan neb fonopoli o syniadau na doethineb ar y pwnc hwn."

"Pan fyddwn yn cyflwyno ein cynigion byddwn am eu trafod gydag eraill a gweld a oes unrhyw syniadau eraill y gallwn eu hychwanegu at hynny, i gryfhau'r amddiffyniadau sydd ar gael yn y cymunedau lleol hynny..."

Ffynhonnell y llun, David Goddard
Disgrifiad o’r llun,

Naill ochr i bont Britannia, yng Ngwynedd a Môn, mae prisiau tai wedi cynyddu hyd yn oed yn fwy yn ystod y pandemig

"Dwi eisiau bod yn ofnadwy o bositif bod y datganiad yna wedi cael ei wneud", meddai arweinydd Cyngor Ynys Môn, Llinos Medi.

Ychwanegodd: "Nyrfys ydw i os ydy'r ateb mor hawdd a'i fod ar gael i ni erbyn diwedd y mis, yna mae na gwestiynau am pam bod o ddim wedi digwydd yn gynt, ac mae 'na gwestiynau os ydy'r ateb yna'n ddigonol."

Yn ôl Ms Medi mae yna sawl agwedd wahanol i'r broblem o ddiffyg tai i bobl eu prynu ar yr ynys.

"Mae ganddo ni nifer o ail dai yn cael eu prynu, mae ganddo ni hefyd dai yn cael eu prynu i fod yn fusnesau gwyliau, mae'n rhaid i ni edrych ar y drefn gynllunio, mae'n rhaid i ni edrych ar drethiant tir ac mae'n rhaid i ni edrych ar sut i ddatblygu tai hefyd heb fod iddyn nhw orfod bod yn rhai cymdeithasol yn unig."

'Edrych ar bob un loophole'

Ychwanegodd bod y premiwm treth cyngor, sy'n cael ei osod ar ail gartrefi mewn sawl sir yng Nghymru, yn system anghyson hefyd.

"O'dd hwnnw'n fod i helpu awdurdodau lleol i drio fynd i afael a'r broblem, ond mae 'na ffordd o gwmpas peidio talu hwnnw o gwbl", meddai Ms Medi.

"Felly mae'n bwysig iawn bod unrhyw argymhelliad yn dod, eu bod nhw'n edrych ar bob un loophole, eu bod nhw'n gwneud yn siŵr ei fod yn gwbl dynn achos 'da ni ddim isio gweld ffyrdd o beidio cydymffurfio a'r newidiadau yma hefyd.

"Yr her sydd ganddo ni efo'r premiwm ydy bod pobl yn trosi, a peidio talu treth o gwbl, ac mae hwnnw'n her ar y pwrs cyhoeddus yn lleol wedyn, ac mae'n balans hynod o ofalus 'da ni'n gorfod ei gymryd."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Capel Bethania ym Mhistyll, Gwynedd, ei werthu am £257,000 yn ddiweddar, gyda chaniatâd i'w droi'n lety gwyliau

Mae'r Cofrestr Tir diweddaraf yn dangos cynnydd o 16% ym mhrisiau tai ar yr Ynys Môn, gyda chyfartaledd pris tŷ yn £237,000.

"Mae'r cyfartaledd incwm yma'n £28,900, felly wyth gwaith cyflog person. Mae'n amser cael gafael ar y broblem, ond mae hefyd yn amser i gael strategaeth tai sy'n cadw ein cymunedau ni yn fyw hefyd.

"Mae prisiau rhent 'di mynd i fyny hefyd, felly weithiau mae 'na bwyslais ar adeiladu tai cymdeithasol yn unig a dydy pawb ddim yn cyrraedd y meini prawf i fod yn gymwys am dŷ cymdeithasol felly mae'n rhaid edrych yn ehangach ar be ydy'r cyfleon allwn ni roi a pa reoliadau mae'r llywodraeth yn gallu ei roi i gefnogi awdurdodau lleol hefyd i wneud hynny.

"Hefyd mae'n bwysig edrych ar y tŷ teuluol. Mae ganddo ni lot o gyplau ifanc yn prynu tŷ cyntaf sydd yn addas iddyn nhw yn unig, ond methu wedyn symud ymlaen o'r tŷ yna i dŷ teuluol, felly mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bod o'n strategaeth tai a bo nhw'n cynllunio'n ofalus."

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn ffyddiog erbyn diwedd y mis y byddan nhw mewn sefyllfa i ystyried y ddogfen fel cabinet, a fydd yn cynnwys cynigion pendant.

Pynciau cysylltiedig