Pentref lle mae bron pob tŷ yn dŷ gwyliau
- Cyhoeddwyd
Mae'r trigolion parhaol olaf mewn pentref yn Sir Benfro yn dweud bod angen ymateb ar frys i ddiogelu cymunedau arfordirol rhag troi'n gymunedau marw oherwydd ail gartrefi.
Er bod tua 50 o dai ym mhentref Cwm-Yr-Eglwys, yng ngogledd Sir Benfro, dim ond dau dŷ sydd â rhywun yn byw ynddynt drwy gydol y flwyddyn - mae'r gweddill yn dai gwyliau, ar wahân i un, sydd ar werth am £1.3m.
Mae Cwm-yr-Eglwys wedi dod yn boblogaidd iawn fel cyrchfan gwyliau, gyda Llwybr Arfordir Penfro yn mynd drwy ganol y pentref.
Ond does dim siop na thafarn yma, ac yn y gaeaf mae'r lle yn wag.
Yn raddol bach dros y blynyddoedd trodd tai'r pentref yn gartrefi gwyliau, nes erbyn heddiw mae'r gymuned wedi darfod i bob pwrpas.
Mae Keith Battrick yn gynghorydd ar Gyngor Cymuned Dinas Cross, y pentref agosaf.
Mae wedi gweld newid mawr ers iddo symud yno o Ben-y-bont ar Ogwr 50 mlynedd yn ôl.
"Mae'n teimlo fel goresgyniad ar brydiau," meddai am y sefyllfa dai haf.
"Ond mae'n gleddyf deufiniog - weithiau mae'n braf eu gweld nhw'i gyd yn mynd yn ôl ym mis Medi, ond ar y llaw arall rydym angen y gwaith yma," meddai.
O'r tri tŷ lle mae pobl yn byw drwy gydol y flwyddyn, mae un ar werth ar hyn o bryd am £1.3m, ac mae trigolion y ddau eiddo arall yn eu 80au.
"Mae o wedi troi'n bentref haf - mae'n farw yma yn y gaeaf," meddai Mr Battrick.
"Mae'n fy ngwneud i'n drist nad yw'r gymuned gynhenid yn gallu fforddio i fyw yma."
Mae'r sefyllfa yn debyg ym mhentref Dinas gerllaw, meddai.
"Mae prisiau tai yn codi'n ofnadwy yno hefyd, cymaint felly fel nad yw plant lleol - yn cynnwys fy mab fy hun - yn gallu fforddio dod yn ôl i fyw yma.
"Mae'n anodd iawn. Mae'n creu drwgdeimlad am nad ydyn nhw'n gallu fforddio prynu cartref parhaol yma."
Cymro Cymraeg ola'r pentref
Mae tŷ Norman Thomas yn agos iawn at lan y môr, ac yn edrych dros y traeth. Dyma'r cartref y bu'n ei rannu gyda'i wraig a'i bedwar plentyn am flynyddoedd.
Mr Thomas, sy'n 88 oed, yw'r unig siaradwr Cymraeg ar ôl yng Nghwm-yr-Eglwys, a dywed y bydd yr iaith yn marw yn y pentref wedi iddo fynd.
"Mae'n drist nad yw pobl ifanc Cymraeg yn gallu fforddio y tai yma," meddai, gan bwyntio at y tŷ sydd ar werth am £1.3m.
"Mae hynna'n hurt, a dyle'r llywodraeth wneud rhywbeth i stopo fe, a rhoi siawns i'r locals - does dim siawns 'da nhw nawr. Does dim gwaith yn Sir Benfro iddyn nhw.
"Ond mae'n rhy hwyr i Gwm-yr-Eglwys, mae'r tai hyn i gyd wedi eu gwerthu i Saeson.
"Does gen i ddim byd yn eu herbyn nhw - maen nhw'n dod â gwaith yma. Pob gaeaf mae 'na waith yn mynd ymlaen ar y tai, a pobl o'r ardal sy'n ei wneud e, a hebddo byddai pobl leol yn dioddef."
Yr unig drigolion parhaol eraill ydy Elizabeth a Harry Broughton, a symudodd yma o Sir Gaerhirfryn 20 mlynedd yn ôl.
Maen nhw'n croesawu'r ffaith bod y pentref yn llawn o dai gwyliau - mae'n golygu fod yna bobl o gwmpas fel arfer, a bod eu buddsoddiad wedi tyfu yn ei werth tu hwnt i'w gobeithion, meddent.
"Rydym yn eistedd ar aur yma, does dim amheuaeth am hynny," meddai Mrs Broughton.
Mae gan y cwpl gysylltiad â'r pentref ers dros 40 mlynedd, a dywedodd nad oes fawr ddim wedi newid yn ystod yr amser hwnnw.
"Roedd 'na wyth neu naw o bobl yn byw yma bryd hynny, ond yn y bôn nid yw'r lle wedi newid rhyw lawer.
"Dydi byw mewn pentref efo cyn lleied o drigolion ddim yn broblem. Dydi o ddim yn le tawel o gwbl... a dydw i ddim yn teimlo fel ein bod yn byw mewn pentref sy'n marw."
Mae prisiau tai yn Sir Benfro wedi codi mwy na 5% yn y flwyddyn ddiwethaf, gyda phris tŷ ar gyfartaledd yn £225,000, sydd ymhell dros y ffigwr trwy Gymru gyfan.
Mae gwerthwyr tai yn dweud bod galw mawr am eiddo yn y wlad neu ar yr arfordir wrth i bobl ddod allan o'r pandemig yn chwilio am ffordd newydd o fyw.
Sir Benfro yw'r ail uchaf yng Nghymru o ran nifer y tai haf - tua 9% o'r stoc dai, o'i gymharu ag 11% yng Ngwynedd.
Yn ôl Keith Battrick mae Cwm-yr-Eglwys wedi bod fel hyn ers blynyddoedd lawer, tra bod pobl leol yn bellach yn cael eu prisio allan o'r farchnad mewn pentrefi cyfagos.
"Dylai Llywodraeth Cymru feddwl yn galed iawn am beth sy'n digwydd i bentrefi yn Sir Benfro a hefyd drwy Gymru - mae'r un broblem yn bodoli yng ngogledd Cymru.
"Ymhen hir a hwyr byddwn yn gweld mwy o bentrefi fel Cwm-yr-Eglwys lle nad oes unrhyw bobl leol yn byw ynddyn nhw, ac mae'r amser hwnnw'n dod yn weddol gyflym dwi'n meddwl."
Dywedodd Llefarydd Llywodraeth Cymru y gall nifer fawr o ail gartrefi gael effaith fawr ar gymuned leol.
"Cymru yw'r unig genedl yn y DU i roi pwerau i awdurdodau lleol i godi lefelau uwch o dreth gyngor ar eiddo gwag tymor hir ac ail gartrefi.
"Yr awdurdod lleol sy'n penderfynu a chynyddu premiymau treth gyngor.
"Rydyn ni hefyd wedi cynyddu cyfradd uwch y Dreth Trafodiad Tir, sy'n berthnasol pan fydd pobl yn prynu eiddo ychwanegol.
"Rydym yn edrych ar ba ymyriadau pellach sydd ar gael a sut y gall ein partneriaid ddefnyddio pwerau presennol."
Gofynnwyd am ymateb gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2021
- Cyhoeddwyd22 Mai 2021
- Cyhoeddwyd15 Mai 2021
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2021